Diwydiant trydyddol

Oddi ar Wicipedia

Sector ddiwydiannol sy'n ymwneud â gwasanaethau yn hytrach na nwyddau diriaethol yw'r diwydiant trydyddol. Mae hyn yn cynnwys adwerthu a chyfanwerthu, bancio, cyfathrebu, gwasanaethau proffesiynol megis peirianneg a meddygaeth, a gwasanaethau'r llywodraeth.[1] Mae'r diwydiant cynradd yn ymwneud â nwyddau crai ac mae'r diwydiant eilaidd yn ymwneud â gweithgynhyrchu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) service industry. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.