Baclafa
Gwedd
| Enghraifft o: | saig |
|---|---|
| Math | pwdin, crwst, bwyd |
| Deunydd | almon, phyllo, walnut, surop, siwgr, sinamon, Pistacia |
| Rhan o | coginiaeth Twrci, coginio Gwlad Groeg, Asian cuisine, Armenian cuisine, cuisine of the Ottoman Empire, Iranian cuisine, Arab cuisine, Israeli cuisine |
| Enw brodorol | باقلوا |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0g07j |
| Quora | Baklava |
Melysfwyd cyfoethog a wneir o haenau o does ffîlo wedi eu llenwi â chnau toredig ac wedi eu melysu â mêl neu surop yw baclafa. Mae'n nodweddiadol o goginio'r Otomaniaid ac fe'i ceir yn ogystal yng Nghanolbarth a De-orllewin Asia.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae union darddiad yr enw yn ddadleuol. Honna'r geirdarddwr Sevan Nişanyan mai o hen wreiddyn Tyrceg y daw'r gair (baklağı neu baklağu).[1] Dadleua Buell, fodd bynnag, y gallai'r gair darddu o'r gwreiddyn Mongoleg baγla -'clymu, lapio, crugo'- gyda'r ôl-ddodiad berfol Tyrceg -v. Mae baγla yntau'n air benthyg yn yr iaith Fongoleg o hen Dyrceg.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.nisanyansozluk.com/?k=baklava&x=9&y=6
- ↑ Sukhbaatar, O. (1997). A Dictionary of Foreign Words in Mongolian (PDF) (ym Mongoleg). Ulaanbaatar. p. 25