Mongoleg
Gwedd
| Enghraifft o: | iaith naturiol, macroiaith, iaith fyw |
|---|---|
| Math | Ieithoedd Mongolaidd |
![]() | |
| Enw brodorol | монгол хэл |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-1 | mn |
| cod ISO 639-2 | mon |
| cod ISO 639-3 | mon |
| Gwladwriaeth | Mongolia, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| System ysgrifennu | Mongolian, Yr wyddor Gyrilig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0148c4 |
| Thesawrws y BNCF | 216 |

Iaith a siaredir ym Mongolia a rhanbarthau cyfagos o Tsieina a Rwsia yw Mongoleg. Hi yw aelod mwyaf adnabyddus y grŵp ieithyddol o ieithoedd Mongolaidd, a chredir ei bod yn perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Altaig. Ceir tua 5.7 miliwn o siaradwyr i gyd, yn cynnwys tua 90% o drigolion Mongolia, a niferoedd sylweddol ym Mongolia Fewnol.
Mae'r iaith wedi defnyddio nifer o wyddorau dros y canrifoedd. Crëwyd yr Wyddor Fongolaidd yn y 12g, a defnyddiwyd hi hyd 1943, pan ddechreuwyd defnyddio yr wyddor Gyrilig yn ei lle. Erbyn hyn, ail-ddechreuwyd dysgu'r wyddor Fongolaidd yn yr ysglion. Parhawyd i ddefnyddio'r wyddor draddodiadol ym Mongolia Fewnol, sy'n rhan o Weriniaeth Pobl Tsieina.
