Gemau Olympaidd yr Haf 1948
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd yr Haf ![]() |
Dyddiad | 1948 ![]() |
Dechreuwyd | 29 Gorffennaf 1948 ![]() |
Daeth i ben | 14 Awst 1948 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1944 ![]() |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1952 ![]() |
Lleoliad | Stadiwm Wembley ![]() |
Gwefan | https://www.olympic.org/london-1948 ![]() |
![]() |
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 1948, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XIV Olympiad. Fe'i cynhaliwyd yn Llundain, Lloegr, o 29 Gorffennaf hyd 14 Awst 1948. Wedi seibiant o 12 mlynedd oherwydd yr Ail Ryfel Byd, rhain oedd Gemau Olymaidd yr Haf cyntaf i gael eu cynnal ers Gemau 1936 yn Berlin. Roedd Gemau 1940 wedi cael eu cynllunio ar gyfer Tokyo, ac yna Helsinki; ac roedd Gemau 1944 i fod wedi cael eu cynnal yn Llundain. Dyma oedd yr ail dro i Lundain gynnal y Gemau Olympaidd, wedi i'r ddinas fod yn lleoliad ar gyfer 1908. Dychwelodd y Gemau i Lundain eto yn 2012.