Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010
Cynhaliwyd digwyddiad aml-chwaraeon Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau Olympaidd y Gaeaf XXI, yn Vancouver, British Columbia, Canada, o 12 Chwefror 2006 tan 28 Chwefror 2010. Cynhaliwyd rhai o'r chwaraeon yn nhref cyrchfan Whistler, British Columbia ac ym maestrefi Vancouver Richmond, West Vancouver a'r University Endowment Lands. Trefnir y Gemau hyn a'r Gemau Paralympaidd gan Bwyllgor Trefnu Vancouver (Vancouver Organizing Committee neu VANOC). Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yw'r drydedd Gemau Olympaidd i gael ei chynnal yng Nghanada, a'r cyntaf yn nhalaith British Columbia. Y gemau a gynhaliwyd yng Nghanada yn flaenorol oedd Gemau Olympaidd yr Haf 1976 ym Montreal, Quebec a Gemau Olympaidd y Gaeaf 1988 yn Calgary, Alberta.
Yn ôl y traddodiad Olympiadd, codwyd y faner Olympaidd gan faer Vancouver, Sam Sullivan, yn ystod seremoni gloi Gemau Olympaidd y Gaeaf 2006 yn Torino, yr Eidal, ar 28 Chwefror 2006, a bu'r faner yn cael ei harddangos yn Neuadd Dinas Vancouver tan seremoni agoriadol Gemau 2010. Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Lywodraethwr Cyffredinol Canada, Michaëlle Jean.[1]
Cynigion a pharatoadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Canlyniadau cynigion Gemau 2010 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Dinas | POC | Rownd 1 | Rownd 2 | ||
Vancouver | ![]() |
40 | 56 | ||
PyeongChang | ![]() |
51 | 53 | ||
Salzburg | ![]() |
16 | - |
Dewisodd Cymdeithas Olympaidd Canada ddinas Vancouver fel yr ymgeisydd Canadiaidd yn hytrach na Calgary, a oedd eisiau ail-westeio'r gemau, a Dinas Quebec a gollodd y cynnig Olympiadd ar gyfer Gemau 2002 ym 1995. Wedi'r rownd gyntaf o belidleisio ar 21 Tachwedd 1998, roedd gan cynnig Vancouver-Whistler 26 plaidlais, roedd 25 pleidlais dros Dinas Quebec a 21 dros Calgary. Cynhaliwyd yr ail rownd, sef y rownd derfynol o bleidleisio ar 3 Rhagfyr 198, rhwng y ddau brif gystadleuydd, ac enilodd Vancouver gyda 40 pleidlais i gymharu â'r 32 pleidlais a dderbyniodd Dinas Quebec. Felly, dechreuodd Vancouver baratoi eu cynnig a lobïo rhyngwladol.
Newidwyd nifer o'r rheolau yn ymwneud â'r broses cynigion ym 1999, wedi'r helynt llwgrwobrwyo a ddigwyddodd ym mhroses Gemau 2002 a enillwyd gan Salt Lake City (wedi hynnu gofynnodd Dinas Quebec am tua $8 miliwn o iawndal am eu cynnig hwy a fethodd).[2] Creodd y Pwyllgor Olympaidd Rhynglwadol Gomisiwn Gwerthuso a apwyntiwyd ar 24 Hydref 2002. Cyn cychwyn y broses cynigion ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 2008, byddai dinasoedd yn aml yn hedfan aelodau o'r pwyllgor i'r ddinas gan roi taith o'r ddinas ac anrhegion iddynt. Arweiniodd y diffyg gorychwyliaeth a tryloywder at gyhuddiadau o gyfnewid arian am bleidleisiau. Cryfhawyd rheolau'r cynigion, gan wneud i'r broses ganolbwyntio yn fwy ar agweddau technegol y dinasoedd cais.
Enillodd Vancouver y broses cynigion i westeio'r Gemau Olympaidd mewn pleidlais y Pwyllgor Olympaidd Rhynglwadol ar 2 Gorffennaf 2003, yn 115fed Sesiwyn y Pwyllgor a gynhaliwyd yn Prague, Gweriniaeth Tsiec. Cyhoeddwyd canlyniad y bleidlais gan Llywydd y PORh Jacques Rogge.[3] Bu Vancouver yn erbyn dau ddinas arall ar y rhestr fer, sef PyeongChang, De Corea, a Salzburg, Awstria. Pyeongchang a enillodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y rownd gyntaf, pan gafodd Salzburg ei ddileu. Yn y rownd derfynol, pleidleisiodd pob un, heblaw dau, o'r aelodau a bleidleisiodd dros Salzburg, dros Vancouver. Hon oedd pleidlais agosaf y PORh ers i Sydney, Awstralia guro Beijing i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2000, o ond 2 pleidlais. Daeth buddugoliaeth Vancouver bron i ddwy flynedd wedi i gais Toronto ar gyfer Gemau olympaidd yr Haf 2008 golli i Beijing mewn pleidlais tirlithriad.
Dywedodd llywodraeth British Columbia y buasent yn talu am uwchraddiad i'r Sea-to-Sky Highway ar gost o $600 miliwn er mwyn ymgymhwyso'r cynnydd yn y traffig rhwng Vancouver a Whistler.
Gwariodd Bwyllgor Olympaidd Vancouver (VANOC) $16.6 miliwn yn uwchraddio cyfleusterau Cypress Mountain, sy'n gwesterio'r holl gystadlaethau arddull-rhydd (aerials, moguls, ski cross) ac eirafyrddio. Adeiladwyd pentrefi ar gyfer yr athletwyr yn Whistler a Vancouver a phrif ganolfan cyfryngau adeilad y gorllewin yng Nghanolfan Cynhadledd Vancouver yn Coal Harbour, ac un arall yn Whistler.[4]
Agorwyd Canolfan Olympaidd/paralympaidd Vancouver yn Hillcrest Park flwyddyn ymlaen llaw ym mis Chwefror 2009, costiodd $40 miliwn i'w hadeiladu, yma cynhelir y cystadlaethau cyrlio. Cwblhawyd pob adeilad mewn pryd oleiaf blwyddyn cyn cychwyn y gemau yn 2010.[5][6]
Costau[golygu | golygu cod y dudalen]
Amcangyfrwyd costau gweithredol Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn 2004, i fod yn $1.354 biliwn (doler Canadiaidd). Erbyn canol 2009, cyfrifwyd y byddai'n costio cyfanswm o $1.76 biliwn,[7] y rhanfwyaf o gronfaoedd an-llywodraethol, trwy noddiadau ac arwerthiant hawliau darlledu yn bennaf. Daeth $580 miliwn gan y trethdalwyr i adeiladu neu adnewyddu cyfleusterau yn Vancouver a Whistler, disgwylwyd i $200 miliwn gael ei wario ar ddiogelwch odan arweiniaeth y Royal Canadian Mounted Police (RCMP). Datgelwyd yn ddiweddarach fod y gwir ffigwr hwnnw'n agosach at $1 biliwn, dros pum gwaith beth amcancyfrwyd yn wreiddiol.[8] Erbyn dechrau mis Chwefror 2010, amcangyfrwyd cyfanswm cost y Gemau i fod tua $6 biliwn, gyda $600 miliwn yn cael ei wario'n uniongyrchol ar westeio'r gemau. Amcangyfrwyd y byddai'r buddion a'r elw i'r ddinas a'r dalaith, a godir fel canlyniad o gynnal y gemau, tua $10 biliwn, a dangosodd adroddiad Price-Waterhouse y byddai'r elw unuingyrchol tua $1 biliwn.[9]
Canolfannau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae rhai canolfannau, gan gynnwys y Richmond Olympic Oval, wedi eu lleoli ar lefel y môr, sy'n anaml ar gyfer Gemau'r Gaeaf. Gemau 2010 hefyd oedd y Gemau Olympaidd cyntaf i gynnal eu seremoni agoriadol odan do. Vancouver yw'r ddinas mwyaf poblog i gynnal y gemau. Mae'r tymheredd yn Vancouver ym mis Chwefror ar gyfartaledd yn 4.8 °C (40.6 °F).[10]
Cynhaliwyd y sermonïau agoriadol a cloi yn Stadiwm BC Place, a dderbyniodd adnewyddiadau gwerth $150 miliwn. Roedd y canolafannau cystadlu yn Vancouver Fwyaf yn cynnwys y Pacific Coliseum, Canolfan Olympaidd/Paralympaidd Vancouver, UBC Winter Sports Centre, Richmond Olympic Oval a Cypress Mountain. Cynhliwyd y cystadlaethau hoci iâ yn General Motors Place, cartref Vancouver Canucks yr NHL, ond gan na ganiateir noddi corfforedig ar gyfer canolfannau Olympaidd, ailenwyd yn Canada Hockey Place ar gyfer ystod y Gemau.[11] Derbyniodd waith adnewyddu gan gynnwys tynnu'r hysbysebu o wyneb yr iâ a throsi rhai o'r ardaloedd seddi i gymhwyso'r wasg.[11] Roedd y canolfannau cystadlu yn Whistler yn cynnwys y cyrchfan sgio Whistler Blackcomb, Parc Olympaidd Whistler a Canolfan Llithro Whistler.
Cafodd defnydd egni y canolfannau Olympaidd ei ddilyn yn fyw am y tro cyntaf, gyda'r wybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Casglwyd ddata'r egni o'r systemau mesur ac awtomeiddio adeiladau naw o'r canolfannau, a cafodd ei arddangos ar-lein drwy'r brosiect "Venue Energy Tracker".[12]
Marchnata[golygu | golygu cod y dudalen]
Gorychwilwyd a dyluniwyd rhanfwyaf o brif symbolau'r gemau gan y diweddar gyfarwyddwr dylunio Leo Obstbaum (1969–2009), gan gynnwys y mascots, medalau a chynllun y ffaglau Olympaidd.[13]
Datgelwyd logo Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 ar 23 Ebrill 2005, ac enwyd yn Ilanaaq yr Inunnguaq. Ilanaaq yw'r gair Inuktitut am gfaill. Mae'r logo'n seiliedig ar gromlech Inukshuk, a adeiladwyd ar gyfer Pafiliwn y Northwest Territories yn Expo 86 a gafodd ei roddi i Ddinas Vancouver wedi'r digwyddiad. Erbyn hyn defnyddir fel tirnod ar English Bay Beach.
Cyflwynwyd mascots Gemau Olympaidd a Paralympaidd y Gaeaf 2010 ar 27 Tachwedd 2007.[14] Ysbrydolwyd gan y creaduriaid traddodiadol First Nations, roedd y mascots yn cynnwys:
- Miga — Arth fôr chwedlonol, rhan orca a rhan arth kermode.
- Quatchi — Sasquatch yn gwisgo esgidiau ac earmuffs.
- Sumi — Ysbryd anifail gwarchod sy'n gwisgo het y morfil orca, ac yn hedfan gydag adenydd y Thunderbird ac yn rhedeg gyda choesau blewog cryf yr arth ddu.
- Mukmuk — Marmot Ynys Vancouver.
Miga a Quatchi oedd mascots y Gemau Olympaidd, Sumi oedd mascot y Gemau Paralympaidd. Sidekick oedd Mukmuk yn hytrach na mascot llawn.
Cynhyrchodd y Royal Canadian Mint gyfres o ddarnau arian coffaol yn dathlu gemau 2010,[15] ac mewn partneriaeth gyda CTV, cafodd y cyhoedd gyfle i belidleisio dros y Top 10 Canadian Olympic Winter Moments; a cafodd cynllunioau'n anrhydeddu'r tri uchaf eu ychwanegu at y gyfres o ddarnau arian.[16]
Cafodd gêm fideo Vancouver 2010 wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd yn Vancouver ei ryddhau ar 12 Ionawr 2010 er mwyn hybu'r gemau.
Darlledu a'r cyfryngau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd y Gemau Olympaidd eu darlledu'n fyd-eang gan nifer o ddarlledwyr teledu. Cafodd hawliau darlledu Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 eu gwerthu ynghyd â Gemau Olympaidd yr Haf 2012, felly roedd y darlledwyr yr un peth yn bennaf ar gyfer y ddau.
Y darlledwr gwesteio oedd Olympic Broadcasting Services Vancouver, is-gwmni o uned ddarlledu mewnol newydd y PORh, yr Olympic Broadcasting Services (OBS). Gemau 2010 oedd y gemau cyntaf lle darparwyd y cyfleusterau darlledu gan yr OBS yn unig.[17] Cyfarwyddwr gweithredol Olympic Broadcasting Services Vancouver oedd Nancy Lee, cyn-gynhyrchydd a swyddog gweithrdol gyda CBC Sports.[18]
Cyfnewid y ffagl[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl traddodiad, dechreuodd y ffagl Olympaidd ei daith yn Olympia, Gwlad Groeg, safle'r Gemau Olympaidd cyntaf, a cludwyd i'r stadiwm yn y ddinas lle bydd y Gemau'n cael eu cynnal mewn pryd ar gyfer y seremoni agoriadol.
Tanwyd fflam y ffagl ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 ar 22 Hydref 2009.[19] Teithiodd o Wlad Groeg, dros Begwn y Gogledd i Arctig Uwch Canada ac ar draws y West Coast i Vancouver. Teithiodd y ffagl tua 45,000 cilometr ar draws Canada mewn 106 diwrnod, gan wneud hon y daith gyfnewid hiraf o fewn un gwlad yn yr hanes Olympaidd. Cludwyd y ffagl Olympaidd gan tua 12,000 o Ganadiaid gan gyrraedd 1,000 o gymunedau.[20][21]
Roedd y cludwyr ffagl enwog yn cynnwys Arnold Schwarzenegger,[22] Steve Nash,[23] Matt Lauer,[24] Justin Morneau,[25] Michael Buble,[26] Bob Costas,[27] Shania Twain,[28] ac enwogion hoci gan gynnwys Sidney Crosby,[29] Wayne Gretzky,[30] a chapteiniau'r ddau dîm Vancouver Canucks a aeth i rowndiau derfynol y Cwpan Stanley: Trevor Linden (1994) a Stan Smyl (1982).
Y gemau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfranogwyr[golygu | golygu cod y dudalen]
Anfonwyd timau i'r gemau gan 82 Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol.[31] Cyfranogodd Ynysoedd y Cayman, Colombia, Ghana, Montenegro, Pacistan, Periw a Serbia yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf am y tro cytaf y flwyddyn hon. Dychwelodd Jamaica, Mecsico a Moroco i'r gemau hefyd, wedi iddynt fethu Gemau Olympiadd y Gaeaf 2006. Ceisiodd Tonga gyfranogi am y tro cyntaf gan anfon un cystadleuwr ar gyfer y gystadleuaeth luge, gan ddenu sylw'r wasg, ond cafodd ddamwain yn y rownd olaf o gymhwyso.[32] Cymhwysodd dau athletwr o Lwcsembwrg,[33] ond ni gymeront ran gan na gyrrhaeddodd un ohonynt y meini prawf a osodwyd gan y POC,[34] ac anafwyd y llall cyn i'r gemau ddechrau.[35]
Albania [33]
Algeria [33]
Andorra [33]
Yr Ariannin [33]
Armenia [33]
Awstralia [36]
Awstria [37]
Aserbaijan [33]
Belarws [38][39]
Gwlad Belg [40][41]
Bermiwda [36]
Bosnia-Hertsegofina [33]
Brasil [42]
Bwlgaria [43]
Canada [38]
Ynysoedd y Cayman [37][44]
Tsile [36]
Tsieina [36]
Colombia
Croatia [36]
Cyprus [33]
Gweriniaeth Tsiec [36]
Denmarc [45]
Estonia [36]
Ethiopia [33]
Y Ffindir [46]
Ffrainc [47]
Georgia [36]
Yr Almaen [36]
Ghana [48]
Prydain Fawr [36]
Gwlad Groeg [40][41]
Hong Cong [49]
Hwngari [36]
Gwlad yr Iâ [33]
India [50]
Iran [36]
Gweriniaeth Iwerddon [33]
Israel [40][41]
Yr Eidal [36]
Jamaica [36]
Japan [36]
Casachstan [36]
Gogledd Corea [51][52]
De Corea [36]
Cirgistan [36]
Latfia [38]
Libanus [37]
Liechtenstein [37]
Lithwania [40][41]
Gweriniaeth Macedonia [33]
Mecsico [33]
Moldofa [36]
Monaco [36]
Mongolia [53]
Montenegro [33]
Moroco [33]
Nepal [33]
Yr Iseldiroedd [54]
Seland Newydd [37]
Norwy [55]
Pacistan [33]
Periw [33]
Gwlad Pwyl [36][56]
Portiwgal [33]
Rwmania [51][57]
Rwsia [36]
San Marino [33]
Senegal [37]
Serbia [36]
Slofacia [38]
Slofenia [40][41][57]
De Affrica [33]
Sbaen [40][41]
Sweden [58]
Y Swistir [38]
Taipei Tsieineaidd [59]
Tajicistan [36]
Twrci [36]
Wcráin [36]
UDA [36]
Wsbecistan [33]
Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]
Cystadleuwyd pymtheg o chwaraeon yng Ngemau Olympaidd 2010. Categoreiddwyd wyth fel chwaraeon iâ, sef: bobsled, luge, ysgerbwd, hoci iâ, sglefrio ffigur, sglefrio cyflymder, sglefrio cyflymder trac byr a cyrlio. Y tri chwaraeon a gategoreiddwyd fel chwaraeon eira Alpaidd oedd: sgio Alpaidd, sgio arddull-rhydd a eirafyrddio. Y pedwar chwaraeon a gategoreiddwyd fel chwaraeon Llychlyniadd oedd: biathlon, sgio traws gwlad, naid sgio a'r cyfuniad Llychlynaidd.
Sgio Alpaidd (10)
Biathlon (10)
Bobsled (3)
Sgio traws gwlad (12)
Cyrlio (2)
Sglefrio ffigur (4)
Sgio arddull-rhydd (6)
Hoci iâ (2)
Luge (3)
Cyfuniad Llychlynaidd (3)
Sglefrio cyflymder trac byr (8)
Skeleton (2)
Naid sgio (3)
Eirafyrddio (6)
Sglefrio cyflymder (12)
- Mae'r rhifau yn y cromfachau'n dynodi sawl cystadleuaeth a gynhelir ym mhob chwaraeon.
Cynhaliwyd seremonïau agoriadol a cloi ar gyfer y cystadlaethau a gategorieddwyd fel chwaraeon iâ (ac eithrio bobsled, luge ac ysgerbwd) yn Vancouver a Richmond. Cynhaliwyd seremonïau y chwaraeon Llychlynaidd yn Callaghan Valley i'r dwyrain o Whistler, a'r cystadlaethau sgio Alpinaidd ar Fynydd Mountain (Creekside) a'r cystadlaethau llithro (bobsled, luge ac ysgerbwd) ar Fynydd Blackcomb. Mynydd Cypress (a leolir yn Cypress Provincial Park yn West Vancouver) a westeiodd y sgio arddull-rhydd (awyrol, mogwl, a sgio traws gwlad), a'r eirafyrddio (hanner-peip, slalom mawr cyfochrog, ac eirafyrddio traws gwlad).
Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 oedd y Gemau Olympaidd cyntaf i hoci iâ dynion a merched gael ei gynnal ar lawr sglefrio culach, maint NHL,[60] gan fesur 200 × 85 troedfedd (61 × 26 metr), yn hytrach na'r maint safonol rhyngwladol o 200 × 98.5 troedfedd (61 × 30 metr). Cynhaliwyd y hoci iâ yn General Motors Place, cartref Vancouver Canucks yr NHL a ailenwyd yn Canada Hockey Place dros ystod y gemau. Arbedodd hyn $10 miliwn o gostau a buasai wedi bod yn gysylltiedig â adeiladu llawr sglefrio newydd, a galluogodd i 35,000 o wyliwyr ychwanegol i fynychu'r cystadlaethau hoci iâ.[60] Ond mynegodd rhai gwledydd Ewropeaidd bryder y buasai'r perderfyniad hwn yn rhoi mantais i'r chwaraewyr o Ogledd America a fu wedi tyfy i fyny'n chwarae ar y lloriau llai.[61]
Cafodd nifer o gystadlaethau eu crybwyll i gael eu cynnwys yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010.[62] Ar 28 Tachwedd 2006, pleidleisiodd Bwrdd Gweithredol y PORh, yn eu cyfarfod yn Ciwait, i gynnwys sgio traws gwlad yn y rhaglen swyddogol.[63] Cymeradwywyd hyn yn ddiweddarach gan Bwyllgor Olympaidd Vancouver (VANOC).[64]
Cafodd y cystadlaethau canylon hefyd eu cynnig ond ni gawsont eu cynnwys:[65]
- Biathlon ras gyfnewid gymysg
- Cyrlio parau cymysg
- Sgio Alpinaidd tîm
- Bobsled ac ysgerbwd tîm
- Luge tîm
- Naid sgio merched
Daeth y mater o eithrio naid sgio merched o'r gemau i Goruchaf Lys British Columbia yn Vancouver rhwng 21–24 Ebrill 2009, a dyfarnwyd ar 10 Gorffennaf 2009 i eithrio naid sgio merched o Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010.[66] Gwadwyd y cais am apêl i Goruchaf Lys Canada ar 22 Rhagfyr 2009, a daeth hyn a unrhyw obaith y byddai'r cystadleuaeth yn cael ei gynnal yn Vancouver yn 2010 i ben.[67] Er mwyn ceisio lleddfu effaith yr eithriad, gwahoddodd drefnwyr VANOC ferched o Ganada i gystadlu ym Mharc Olympaidd Whistler ar gyfer cystadlaethau eraill, gan gynnwys y Cwmpan Cyfandirol ym mis Ionawr 2009.[66] Mae ymdrch ar y gweill i gynnwys naid sgio merched yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi, Rwsia.[68]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Gov. Gen. Jean to open 2010 Games: PM", Edmonton Sun, Canadian Press, 2009-06-27.
- ↑ IOC rejects Quebec City request. Slam! Olympics (1999-03-23). Adalwyd ar 2009-01-07.
- ↑ "Vancouver to host 2010 Winter Olympics", CBBC Newsround, 2003-07-02.
- ↑ "Construction of Olympic Venues", Olympics 2010.
- ↑ New Vancouver 2010 Sports Venues Completed. Crsportsnews.com (2009-02-24). Adalwyd ar 2010-01-10.
- ↑ Vancouver 2010 sport venues completed on time and within $580-million budget. Vancouver Olympic/Paralympic Centre opens today as a model of sustainable building - News Releases : Vancouver 2010 Winter Olympics and Paralympics (2009-02-19). Adalwyd ar 2010-01-10.
- ↑ 2010 bid book an Etch-A-Sketch. The Tyee (2 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 2009-07-02.
- ↑ Olympic security estimated to cost $900M. CBC News (19 Chwefror 2009).
- ↑ Dave Zirin (2010-01-25). As Olympics near, people in Vancouver are dreading Games. Sports Illustrated, CNN. Sportsillustrated.cnn.com. Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ "Winter Olympics all wet?: Vancouver has the mildest climate of any Winter Games host city", Vancouver Sun, 2003-07-09.
- ↑ 11.0 11.1 GM Place to get new name for 2010. CTV News (2008). Adalwyd ar 2009-01-07.
- ↑ "Measuring the Power of Sport", The Globe and Mail.
- ↑ Josh Wingrove. "Vancouver Olympic designer dies at age 40", Globe and Mail, CTV Television Network, 2009-08-21.
- ↑ "2010 Vancouver Olympics' mascots inspired by First Nations creatures", CBC Sports, 2007-11-27.
- ↑ Bret Evans. "14 circulating coins included in 2010 Olympic program", Canadian Coin News, 23 Ionawr–5 Chwefror 2007.
- ↑ Hollie Shaw (20 Chwefror 2009). What's Your Olympic Moment?. The National Post. Adalwyd ar 2009-02-26.
- ↑ OBSV Introduction. Obsv.ca. Adalwyd ar 2010-01-10.
- ↑ Nancy Lee leaving CBC Sports. cbc.ca (10 Hydref 2006).
- ↑ "Olympic flame lit for Vancouver Games", Russia Today, 22 Hydref 2009.
- ↑ "Funding for 2010 Olympics torch relay to focus on local events", CBC News, 2009-04-30.
- ↑ "2010 Olympic Torch relay general info", CTV, CTV, 11 Chwefror 2010.
- ↑ "Governator takes the flame in Stanley Park", Vancouver Sun, Canwest Publishing, 13 Chwefror 2010.
- ↑ "Nash, Rees, Set to Run with Torch", Victoria Times Colonist, Canwest Publishing, 11 Chwefror 2010.
- ↑ "For the next Hour, I am pure Canadian", Vancouver 24hr news, Canoe, 11 Chwefror 2010.
- ↑ "Healthy Morneau excited to carry Torch", mlb.com, mlb.com, 11 Chwefror 2010.
- ↑ "Michael Buble, Jann Arden to join in Olympic torch ceremony", vancouversun.com, Canwest Publishing, 11 Chwefror 2010.
- ↑ "Torchbearer 102 Bob Costas carries the flame in Burnaby", vancouver2010.com, vancouver2010.com, 1 Ionawr 2010.
- ↑ "Shania Twain carries Olympic torch", The Canadian Press, Canadian Broadcasting Corporation, 1 Ionawr 2010.
- ↑ "Reserved, restrained, and rocking with Sid the Kid", ctvolympics.ca, The Globe and Mail, 11 Chwefror 2010.
- ↑ "Pressing questions as Olympic hockey beckons", 14 Chwefror 2010.
- ↑ Quick Facts about the Vancouver 2010 Winter Games. VANOC. Adalwyd ar 2008-09-01.
- ↑ Tongan athlete narrowly misses out on Winter Olympics. Australian Broadcasting Corporation (1 Chwefror 2010).
- ↑ 33.00 33.01 33.02 33.03 33.04 33.05 33.06 33.07 33.08 33.09 33.10 33.11 33.12 33.13 33.14 33.15 33.16 33.17 33.18 33.19 33.20 33.21 33.22 http://www.fis-ski.com/data/document/summary-quotas-allocation.pdf
- ↑ Sport | Kari Peters bleibt zu Hause. wort.lu. Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ Sport | Stefano Speck fährt nicht nach Vancouver. wort.lu. Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ 36.00 36.01 36.02 36.03 36.04 36.05 36.06 36.07 36.08 36.09 36.10 36.11 36.12 36.13 36.14 36.15 36.16 36.17 36.18 36.19 36.20 36.21 36.22 36.23 36.24 36.25 36.26 Vancouver Olympics – Athletes
- ↑ 37.0 37.1 37.2 37.3 37.4 37.5 Alpine team takes fall at 2010 Games – Vancouver 2010 Olympics. thestar.com (2009-06-10). Adalwyd ar 2010-01-10.
- ↑ 38.0 38.1 38.2 38.3 38.4 Germany, Norway round out 2010 Olympic men's hockey. TSN (2009-02-08). Adalwyd ar 2009-02-09.
- ↑ Athletes : Vancouver 2010 Winter Olympics. Vancouver2010.com. Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ 40.0 40.1 40.2 40.3 40.4 40.5 ISU Figure skating qualification system.
- ↑ 41.0 41.1 41.2 41.3 41.4 41.5 2009 Figure Skating World Championship results.
- ↑ Saiba os brasileiros que podem ir a Vancouver.
- ↑ Bulgaria received one more quota for the games. Топспорт. Adalwyd ar 2010-02-13.
- ↑ Travers is snow joke. Adalwyd ar 2009-11-05.
- ↑ Olympic Qualification. World Curling Federation. Adalwyd ar 2009-02-09.
- ↑ Suomen Olympiajoukkueeseen Vancouver 2010 -talvikisoihin on valittu 94 urheilijaa – kahdella miesalppihiihtäjällä vielä mahdollisuus lunastaa paikka joukkueessa – Suomen Olympiakomitea. Noc.fi. Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ 108 Français à Vancouver – JO 2010 – L'EQUIPE.FR. Vancouver2010.lequipe.fr. Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ "Ghana's 'Snow Leopard' qualifies to ski in 2010 Winter Olympics", CBC News.
- ↑ Short Track Speed Skating entry list (24 Tachwedd 2009). Adalwyd ar 2009-11-26.
- ↑ Tashi and Jamyang qualify for 2010 Olympic Winter Games (18 Mawrth 2009). Adalwyd ar 2009-03-18.
- ↑ 51.0 51.1 Lambiel crushes competition at Nebelhorn. Adalwyd ar 2009-09-26.
- ↑ North Korea – CTV Olympics. Ctvolympics.ca (2010-01-22). Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ Sports | Mongolia Web News. Mongolia-web.com. Adalwyd ar 2010-01-10.
- ↑ Genomineerden. Nocnsf.nl. Adalwyd ar 2010-01-10.
- ↑ (Norwyeg) Anders Rekdal tatt ut til OL i Vancouver på overtid. Olympiatoppen (2010-01-29). Adalwyd ar 2010-02-08.
- ↑ (Pwyleg) Wystartujemy w Vancouver (19 Mawrth 2009). Adalwyd ar 2009-03-19.
- ↑ 57.0 57.1 Athletes : Vancouver 2010 Winter Olympics. Vancouver2010.com. Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ OS-truppen komplett(erad) – Olympic Team complete(d). SOC (2010-12-01). Adalwyd ar 2010-12-01.
- ↑ Vancouver 2010 Olympic Winter Games Qualifications | News | USA Luge. Luge.teamusa.org. Adalwyd ar 2010-02-07.
- ↑ 60.0 60.1 VANOC shrinks Olympic ice. Slam! Sports (2006-06-06). Adalwyd ar 2009-01-07.
- ↑ "2010 Olympic hockey will be NHL-sized", CBC News, 2006-06-08.
- ↑ "Ski-cross aims for Vancouver 2010", BBC Sport, 2006-06-12.
- ↑ "Ski-cross gets approved for 2010", BBC Sport, 2006-11-28.
- ↑ Vancouver 2010: In good shape with positive progress on media accommodation. International Olympic Committee (2007-03-09). Adalwyd ar 2009-01-07.
- ↑ Olympic programme updates. International Olympic Committee (2006-11-28). Adalwyd ar 2009-01-07.
- ↑ 66.0 66.1 Vancouver 2010 Statement of BC Supreme Court Decision on Women's Ski Jumping at the 2010 Olympic Winter Games. Vancouver2010.com (10 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2009.
- ↑ Supreme Court spurns women ski jumpers. cbc.ca (22 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2009.
- ↑ FIS advocates women's ski jump. canada.com (4 Medi 2009). Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2009.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan swyddogl Gemau Olympaidd a Paralympaidd y Gaeaf 2010, Vancouver
- Vancouver 2010, Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol
Gemau Olympaidd |
|
---|---|
Chwaraeon • Cyfrif medalau • Pwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol • Medalyddion • Symbolau | |
Gemau'r Haf | 1896 • 1900 • 1904 • 1908 • 1912 • |
Gemau'r Gaeaf | 1924 • 1928 • 1932 • 1936 • |