Jacques Rogge
Cownt Jacques Rogge | |
---|---|
![]() Jacques Rogge, 2014 | |
8fed Lywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol | |
Yn ei swydd 16 Gorffennaf 2001 – 10 Medi 2013 | |
Rhagflaenwyd gan | Juan Antonio Samaranch |
Dilynwyd gan | Thomas Bach |
Manylion personol | |
Ganwyd | Gent, Gwlad Belg | 2 Mai 1942
Cenedligrwydd | Belgiad |
Priod | Y Gowntes Anne Rogge |
Plant | 2 mab |
Alma mater | Prifysgol Gent |
Galwedigaeth | Llawfeddyg orthopedig Gweinyddwr chwaraeon |
Gweinyddwr chwaraeon Belgaidd oedd Jacques Rogge, y Cownt Rogge (2 Mai 1942 – 29 Awst 2021). Ef oedd wythfed Lywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC), a bu'n gwasanaethu yn y swydd honno o 16 Gorffennaf 2001 hyd 10 Medi 2013, gan oruchwylio tair chystadleuaeth y Gaeaf (Dinas Salt Lake, Twrin, a Vancouver) a thair chystadleuaeth yr Haf (Athen, Beijing, Llundain).
Fe'i ganwyd yn Gent, Gwlad Belg, yn ystod yr Ail Rhyfel y Byd. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Gent. Llawfeddyg orthopedig oedd ef. Bu farw yn 79 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Jacques Rogge, orthopaedic surgeon who was a great success as president of the International Olympic Committee – obituary". Telegraph (yn Saesneg). 31 Awst 2021. Cyrchwyd 31 Awst 2021.