Neidio i'r cynnwys

Bobsled

Oddi ar Wicipedia
Bobsled
Enghraifft o:math o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon gaeaf, chwaraeon tîm, sledio, chwaraeon unigolyn, chwaraeon rhew Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/09wz9 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF16751 edit this on wikidata
QuoraBobsleigh edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tîm bobsled yr Unol Daleithiau yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2006.

Chwaraeon gaeaf yw bobsled, lle mae timau o ddau neu bedwar yn llithro lawr trac iâ cul, wedi ei fancio sy'n twistio ar gar llusg wedi ei bweru gan ddisgyrchiant. Daeth yr amryw o fathau o geir llusg i fodolaeth cyn i'r traciau cyntaf gael eu adeiladu yn Saint-Moritz, lle addaswyd y bobslediau cyntaf i ddod yn geir llusg mwy y Luge a'r Ysgerbwd er mwyn cludo teithwyr. Tarddiad y tri math o geir llusg oedd ceir llusg y bechgyn dosbarthu a toboganau. Datblygodd cystadleuaeth yn ddiweddarach, ac adeiladodd perchennog gwesty Caspar Badrutt y trac cyntaf ym tua 1870, er mwyn amddiffyn y dosbarth gweithiol a'r ymwelwyr cyfoethog ar strydoedd Saint-Moritz. Mae wedi gwesteio'r chwaraeon mewn dau o'r Gemau Olympaidd ac mae'r trac yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.

Llywodraethir cystadlaethau bobsled gan y Fédération Internationale de Bobsleigh et de Tobogganing (FIBT), a caiff cystadlaethau cenedlaethol eu llywodraethu gan gyrff megis yr United States Bobsled and Skeleton Federation a Bobsleigh Canada Skeleton.

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.