Gemau Olympaidd yr Haf 1908

Oddi ar Wicipedia
Gemau Olympaidd yr Haf 1908
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1908 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd27 Ebrill 1908 Edit this on Wikidata
Daeth i ben31 Hydref 1908 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1904, 1906 Intercalated Games Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1912 Edit this on Wikidata
LleoliadWhite City Stadium, Llundain Edit this on Wikidata
Yn cynnwyswater motorsports at the 1908 Summer Olympics, tennis at the 1908 Summer Olympics, field hockey at the 1908 Summer Olympics, gymnastics at the 1908 Summer Olympics, football at the 1908 Summer Olympics, water polo at the 1908 Summer Olympics, boxing at the 1908 Summer Olympics, rowing at the 1908 Summer Olympics, rackets at the 1908 Summer Olympics, Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908, shooting at the 1908 Summer Olympics, fencing at the 1908 Summer Olympics, archery at the 1908 Summer Olympics, rugby union at the 1908 Summer Olympics, lacrosse at the 1908 Summer Olympics, sailing at the 1908 Summer Olympics, diving at the 1908 Summer Olympics, Cycle polo at the 1908 Summer Olympics, tug of war at the 1908 Summer Olympics, polo at the 1908 Summer Olympics, jeu de paume at the 1908 Summer Olympics, swimming at the 1908 Summer Olympics, athletics at the 1908 Summer Olympics, wrestling at the 1908 Summer Olympics Edit this on Wikidata
Map
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/london-1908 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd 1908, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r Olympiad IV, yn Llundain yn 1908. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn Rhufain yn wreiddiol. Ar y pryd, rhain oedd y pumed Gemau Olympaidd Modern. Ond fe is-raddiwyd Gemau Olympaidd 1906 ers hynny gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ac felly ystyrir gemau 1908 i fod y pedwerydd Gemau Olympaidd Modern, gan gadw o fewn y patrwm cylchred pedair mlynedd. Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol oedd Baron Pierre de Coubertin. Bu Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden, perchennog Castell y Waun yn cystadlu yn y gystadleuaeth rasio cychod.

Roedd yr awdurdodau Eidalaidd yn paratoi'r isadeileddau ar gyfer y gemau pan echdorodd Vesuvius ar y 7fed o Ebrill 1906, gan ddinistrio dinas Napoli ger llaw. Fe ail-gyfeirwyd yr arian a neilltuwyd ar gyfer y gemau tuag at ail-adeiladu Napoli, felly roedd angen lleoliad newydd. Dewiswyd Llundain, a chynhaliwyd y gemau yn White City wrth ochr yr Arddangosfa Ffranco-Brydeinig, a oedd yn ddigwyddiad llawer mwy nodweddiadol ar y pryd. Berlin a Milan oedd yr ymgeiswyr eraill i gynnal y Gemau.

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Cystadlwyd 22 o chwaraeon, yn cynyrchioli 24 o ddisgyblaehau chwaraeon, yng Ngemau 1908. Ystyriwyd nofio, plymio a polo dŵr fel tair disgyblaeth o'r un chwaraeon. Roedd tug-of-war yn rhan o athletau a rhestrwyd dau ffurf o gôd pêl-droed cymdeithas a Rygbi'r Undeb gyda'i gilydd. Cystadlodd Cymru fel gwlad yn ei hawl ei hun yn y gystadleuaeth hoci gyda Tîm hoci cenedlaethol dynion Cymru yn dod yn drydedd ac enill Medal Efydd.

Cenhedloedd a Gyfranogodd[golygu | golygu cod]

Y cyfranogwyr

Roedd athletwyr yn cynyrchioli 22 Pwyllgor Cenedlaethol Olympaidd. Gwnaeth yr Ariannin, Ffindir, Twrci, a Seland Newydd eu ymddangosiad cyntaf yn y gemau fel tîm Awstralasia.

Cyfanswm Medalau[golygu | golygu cod]

Dyma'r 10 cenedl a enillodd y cyfanswm uchaf o fedalau.

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Prydain Fawr Prydain Fawr (cenedl gwesteiwyr) 56 51 39 146
2 Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America 23 12 12 47
3 Baner Sweden Sweden 8 6 11 25
4 Baner Ffrainc Ffrainc 5 5 9 19
5 Baner Yr Almaen Yr Almaen 3 5 5 13
6 Baner Hwngari Hwngari 3 4 2 9
7 Baner Canada Canada 3 3 10 16
8 Baner Norwy Norwy 2 3 3 8
9 Baner Yr Eidal Yr Eidal 2 2 0 4
10 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 1 5 2 8

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Australasia included Australia and New Zealand.
  2. The Grand Duchy of Finland was part of the Russian Empire at the time, but was treated as a separate nation.
  3. The Netherlands was typically referred to in early Olympic competition as "Holland" though the entire nation of the Netherlands was the entity in question rather than the region of the country formally named Holland; the IOC currently refers to all entries from the nation as from "Netherlands".