Gemau Olympaidd y Gaeaf
Digwyddiad aml-chwaraeon a gynhelir pob pedair mlynedd yn ystod y gaeaf yw Gemau Olympaidd y Gaeaf. Mae'n cynnwys chwaraeon gaeafol sy'n cael eu cynnal ar rew neu eira, megis sgïo Alpaidd, sgïo traws gwlad, sglefrio ffigur, bobsled a hoci iâ.
Mae sgio traws gwlad, sglefrio ffigur, hoci iâ, cyfuniad Llychlynaidd, naid sgio a sglefrio cyflymder i gyd wedi cael eu cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf ers 1924. Mae cystadlaethau athletau eraill wedi cael eu hychwanegu wrth i'r Gemau fynd yn eu blaen. Mae rhai chwaraeon megis luge, sglefrio cyflymder trac byr a sgio steil-rhydd wedi ennill safle parhaol yn y rhaglen Olympiadd, tra bod eraill, megis sgio cyflymder, bandy a skijöring wedi cael eu cynnal fel arddangosfeydd o'r chwaraeon yn unig ond erioed wedi cael eu cynnwys fel chwaraeon Olympaidd swyddogol.
Gemau Olympaidd |
|
|---|---|
| Chwaraeon • Cyfrif medalau • Pwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol • Medalyddion • Symbolau | |
| Gemau'r Haf | 1896 • 1900 • 1904 • (1906) • 1908 • 1912 • |
| Gemau'r Gaeaf | 1924 • 1928 • 1932 • 1936 • |