Gemau Olympaidd yr Haf 1928

Oddi ar Wicipedia
Gemau Olympaidd yr Haf 1928
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1928 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd28 Gorffennaf 1928 Edit this on Wikidata
Daeth i ben12 Awst 1928 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1924 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1932 Edit this on Wikidata
LleoliadStadiwm Olympaidd, Amsterdam Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/amsterdam-1928 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1928 (Iseldireg: Olympische Zomerspelen 1928), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r IX Olympiad rhwng 28 Gorffennaf a 12 Awst yn ninas Amsterdam, Yr Iseldiroedd. Roedd Amsterdam wedi gwneud cais i gynnal Gemau Olympaidd 1920 a 1924 ond wedio colli allan i Antwerp, Gwlad Belg ym 1920 ac i Baris, Ffrainc ym 1924.

Y Gemau[golygu | golygu cod]

Cafwyd 2,883 o athletwyr - 2,606 o ddynion a 277 o ferched - o 46 o wledydd gwahanol yn cystadlu mewn 14 o gampau gwahanol. [1] Cafwydd cystadlaethau athletau a gymnasteg i ferched am y tro cyntaf yn ystod y Gemau[2]. Caniatawyd i ferched gystadlu yn y 100 metr, 800 metr, naid uchel, disgen a'r 400 metr dros y clwydi ac oherwydd y diffyg cystadlaethau i ferched, gwrthododd merched athletwyr benywaidd o Ynysoedd Prydain a chystadlu.[3]

Cafywd Fflam Olympaidd ei gynnau am hyd y Gemau am y tro cyntaf; traddodiad sydd yn parhau hyd heddiw ac am y tro cyntaf dechreuodd yr orymdaith o wledydd gyda Gwlad Groeg a gyda'r wlad oedd yn cynnal y gemau, Yr Iseldiroedd, yn olaf yn yr orymdaith, traddodiad arall sydd yn parhau hyd heddiw.

Cafodd Yr Almaen wahoddiad i gystadlu yng Ngemau Olympaidd yr Haf am y tro cyntaf ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wrth cael ei ddewis yn nhîm Polo dŵr Prydain Fawr daeth y Cymro, Paolo Radmilovic, y person cyntaf i gynrychioli Prydain mewn pum Gemau Olympaidd yr Haf[4].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (PDF) The Ninth Olympiad. Amsterdam 1928. Official Report (Adroddiad). Archifwyd o y gwreiddiol ar 2008-04-08. https://web.archive.org/web/20080408184510/http://www.la84foundation.org/6oic/OfficialReports/1928/1928.pdf. Adalwyd 2022-01-30.
  2. "Timeline of Women in Sports: Gymnastics". faculty.elmira.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2014. Cyrchwyd 12 Chwefror 2014.
  3. Hargreaves, Jennifer (2007). O'Reilly, Jean; Cahn, Susan (gol.). Olympic Women. Women and Sports in the United States. Boston: Northeastern University Press. tt. 8. ISBN 978-1-55553-671-8.
  4. "Search for Olympian's four golds". BBC Wales. 2008-07-17.