Luge yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010
Cynhaliwyd cystadlaethau luge yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010 rhwng 13 ac 17 Chwefror 2010 yng Nghanolfan Llithro Whistler yn Whistler, British Columbia, Canada.
Medalau[golygu | golygu cod y dudalen]
Tabl medalau[golygu | golygu cod y dudalen]
Safle | Gwlad | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | ![]() |
2 | 1 | 2 | 5 |
2 | ![]() |
1 | 1 | 0 | 2 |
3 | ![]() |
0 | 1 | 0 | 1 |
4 | ![]() |
0 | 0 | 1 | 1 |
Cystadlaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynhaliwyd tair cystadleuaeth luge yn y gemau:
Cystadlaeth | Aur | Arian | Efydd |
---|---|---|---|
Dynion sengl | ![]() |
![]() |
![]() |
Merched sengl | ![]() |
![]() |
![]() |
Parau | ![]() Andreas Linger Wolfgang Linger |
![]() Andris Šics Juris Šics |
![]() Patric Leitner Alexander Resch |
Amserlen gystadlu[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhestrir yr holl amserau mewn Amser Safonol y Cefnfor Tawel (UTC-8).
Diwrnod | Dyddiad | Dechrau | Diwedd | Cystadleuaeth | Cymal |
---|---|---|---|---|---|
2 | Dydd Sadwrn, 13 Chwefror 2010 | 17:00 | 20:35 | Dynion | Rhagras 1 a 2 |
3 | Dydd Sul, 14 Chwefror 2010 | 13:00 | 16:50 | Dynion | Rhagras 3 a 4 |
4 | Dydd Llun, 15 Chwefror 2010 | 17:00 | 19:55 | Merched | Rhagras 1 a 2 |
5 | Dydd Mawrth, 16 Chwefror 2010 | 13:00 | 16:10 | Merched | Rhagras 3 a 4 |
6 | Dydd Mercher, 17 Chwefror 2010 | 17:00 | 19:15 | Parau | Rhagras 1 a 2 |
Cymhwyso[golygu | golygu cod y dudalen]
Dogn athletwyr/POC[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a'r Fédération Internationale de Luge de Course (FIL), roedd 110 am gael cymryd rhan. Roedd hyn i gynnwys 40 o athletwyr ar gyfer ras senglau'r dynion, 30 ar gyfer ras senglau'r merched, a 20 tîm o barau (sef 40 athletwr). Gafodd yr uchafswm o 110 o athletwyr ei osod yng 2002 Winter Olympics in Salt Lake City, Utah, United States, and repeated for the Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2006 yn Torino, yr Eidal. Gall pob Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol gofrestru hyd at 10 o athetwyr (3 dyn, 3 merch, a 2 bâr).[1]
System gymhwyso[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd yr athletwyr i gael eu rhestru yn ôl y nifer o bwyntiau a enillont yng ngwpan y byd yn ystod tymor cystadleuaeth 2008–2009 hyd diwedd hanner cyntaf tymor 2009–2010 (31 Rhagfyr). Er mwyn bod yn gymwys byddai'n rhaid i'r athletwyr fod wedi ennill pwyntiau ym mhump o gystadlaethau cwpan y byd, Cwpan y Cenhedloaeth neu Gwpan y Byd Iau, neu fod wedi gorffen yn y 30 uchaf (dynion), 20 uchaf (merched) neu'r 16 uchaf (parau) yng Ngwpan y Byd yn ystod y cyfnod cymhwyso. Roedd y 40 dyn uchaf, y 30 merch uchaf a'r 20 pâr uchaf i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, gyda'r dogn dros ben i gael ei rannu rhwng gweddill yr athletwyr, gyda'r gwledydd a oedd eisoes heb gynyrchiolaeth yn derbyn blaenoriaeth. Roedd Canada wedi eu gwarantu i dderbyn un sled ym mhob cystadleuaeth gan mai gwy oedd yn gwesteio'r gemau, odan yr amod eu bod yn cyrraedd yr anghenion cymhwyso.[1][2]
Dognau terfynol[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwlad | Dynion [3] | Merched [3] | Parau [3] |
---|---|---|---|
![]() |
3 | 3 | 2 |
![]() |
1 | 0 | 0 |
![]() |
0 | 1 | 0 |
![]() |
3 | 2 | 2 |
![]() |
2 | 0 | 0 |
![]() |
3 | 3 | 2 |
![]() |
1 | 0 | 0 |
![]() |
3 | 1 | 2 |
![]() |
1 | 0 | 0 |
![]() |
2* | 0 | 0 |
![]() |
1 | 0 | 0 |
![]() |
1 | 2 | 0 |
![]() |
3 | 3 | 2 |
![]() |
1 | 0 | 0 |
![]() |
1 | 0 | 0 |
![]() |
1 | 1 | 0 |
![]() |
1 | 3+ | 2 |
![]() |
3 | 3 | 2 |
![]() |
1 | 2 | 1 |
![]() |
1 | 0 | 0 |
![]() |
1 | 1 | 0 |
![]() |
1 | 0 | 0 |
![]() |
2 | 0 | 1 |
![]() |
0 | 2 | 2 |
![]() |
3 | 3 | 2 |
Cyfanswm: 25 POC | 39 | 30 | 20 |
*Bu farw'r athletwr luge Georgiaidd Nodar Kumaritashvili yn ystod hyfforddi, a tynnodd ei gyd aelod tîm Levan Gureshidze allan o'r gystadleuaeth.
+Tynnodd yr athletwr luge Romaniaidd Violeta Strămăturaru allan o'r gystadleuaeth.
Dewis y rheithgor[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar 15 Mehefin 2009, datanodd yr FIL aelodau eu rheithgor ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010. Arweinwyd y rheithgor gan Josef Benz (y Swistir, cadeirydd Comisiwn Chwaraeon yr FIL). Roedd aelodau eraill y rheithgor yn cynnwys Zianbeth Shattuck-Owen (Unol Daleithiau), rheolwr luge ar gyfer Gemau 2002, a Markus Schmidt (Awstria), a enillodd fedal efydd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 1992 yn Albertville, Ffrainc. Roedd cynyrchiolwyr y Bwrdd Technegol Gweithredol yn cynnwys Björn Drydahl (Norwy), Marie-Luise Rainer (yr Eidal) a Walter Corey (Canada).[4]
Arolygaeth amhureddu[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar 21 Gorffennaf 2009, cyhoeddodd yr FIL y buasai arolygaethau amhureddu gwaed yn cael eu defnyddio ar gyfer y chwaraeon am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd. Datganodd llywydd yr FIL Josef Fendt yn ystod y 57fed Gyngres yn Liberec, Gweriniaeth Tsiec, nad oedd prawf positif wedi cael ei wneud yn ystod Cwpan y Byd Viessmann na phencampwriaethau Ewropeaidd na phencampwriaethau'r Byd yr FIL er i brofion amhureddu gael eu cynnal ar hap gan y World Anti-Doping Agency. Roedd y ddau drosedd cyffriau diwethaf i ddigwydd odan lywodraeth yr FIL wedi digwydd gyda'r cyffur cannabis, a cafodd y ddau athletwr eu cosbi gan eu ffederasiynnau cenedlaethol.[5]
Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Cydnabyddir mai trac Canolfan Llithro Whistler yw'r cyflymaf yn y byd, ac mae'n enwog fel y peryclaf. Cododd nifer o dimau bryderon ynglyn â diogelwch yr athletwyr cyn cychwyn y gemau.[6] Ar 12 Chwefror dywedodd llefarydd FIL y bu 2,500 rhediad ar y trac gyda chanran o ddamweiniau ond 3%. Ond, wythnos cyn y gemau roedd yr athletwyr yn sylwebu ar gyflymder ac anhawster technegol y trac 1,400 metr.[7] Digwyddodd nifer o ddamweiniau bach ar y trac yn ystod y rhediadau hyfforddi cyn cychwyn y gemau.[6]
Yn ystod sesiwn hyfforddi ar 12 Chwefror, bu farw'r athletwr Georgiaidd Nodar Kumaritashvili o anafiadau a ddebryniodd mewn damwain ar dro olaf y trac wrth deithio ar gyflymder o 144.3 cilometr yr awr, gan daro i mewn i ochr y tro a hedfan dros y wal amddiffyn cyn taro polyn dur.[8] Cynhaliodd yr FIL gyfarfod brys yn syth wedi'r digwyddiad, a gohirwyd y rhediadau hyfforddi am weddill y dydd.[6]
Gwnaethpwyd ymchwiliadau i'r ddamwain yr un diwrnod, gan ddod i'r canlyniad na achoswyd y ddamwain gan unrhyw ddiffyg yn y trac. Fel mesur rhwystrol, codwyd uchder y waliau ar y ffordd allan o dro 16 newidwyd proffil yr iâ.[9] Rhyddhawyd datganiad ar cyd gan yr FIL, y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (PORh), a Phwyllgor Trefnu (VANOC) ynglyn â marwolaeth Kurmaitasvili pan ohirwyd y hyfforddi.[10] Yn ôl Gwasanaeth Crwneriaid British Columbia a'r Royal Canadian Mounted Police (RCMP), achoswyd y ddamwain gan Kumaritashvili wedi iddo ddod allan o dro 15 yn hwyr a pheidio a digolledu ar gyfer tro 16.[11] Oherwydd y farwolaeth, ychwanegwyd 100 troedfedd o wal amddiffyn wedi tro 16 a newidwyd proffil yr iâ.[11] Symudwyd cychwyn ras y dynion hefyd i'r un man a chychwyn ras y merched a'r ras parau.[12] Kumaritashvili oedd yr athletwr Olympaidd cyntaf i farw yn ystod hyfforddi ar gyfer Gemau Olympaidd yr Gaef ers 1992[12] a'r athletwr luge cyntaf i farw yn ystod hyfforddi ers i Kazimierz Kay-Skrzypeski farw ar y trac luge a ddefnyddiwyd ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 1964 yn Innsbruck.[13] Dyma hefyd oedd y farwolaeth gyntaf yn chwaraeon luge ers 10 Rhagfyr 1975 pan lladdwyd athletwr luge Eidalaidd.[14]
Symudwyd cychwyn ras y merched a'r ras parau i'r safle cychwyn iau ar y trac, a leolir ar ôl tro 5.[15] Cwynodd Natalie Geisenberger o'r Almaen nad cychwyn merched ydoedd, ond cychwyn "kind", sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel "plant" neu "caredig". Datganodd ei chyd-aelod tîm Tatjana Hüfner a oedd gyda'r cyflymdra cyflymaf o 82.3 mya dros ei dwy llithriad, mad oedd y cychwyn newydd yn gymorth i rai fel hi a oedd yn dechreuwyr da.[15] Datganodd yr Americanwraig Erin Hamlin fod y trac yn dal i fod yn gorchymyn llawer gan yr athletwyr hyd yn oed wedi i'r pellter gael ei leihau o 1,193 metr i 953 metr ac fod yr athletwyr dal yn cyrraedd cyflymderau o dros 80 mya.[15] Ond, adroddodd y wasg nad oedd unrhyw ddamweiniau yn ras y dynion fel canlyniad o'r newid hwn.[16]
Yn ystod cyfweliad gyda Yahoo! Sports ar 14 Chwefror 2010, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr FIL, Svein Romstad, fod y ffederasiwn wedi cysidro diddymu'r gystadleuaeth luge yn dilyn marwolaeth Kumaritashvili deuddydd ynghynt.[17] Dywedodd Romstad fod Kumaritashvili wedi gwneud cangymeriad gan achosi'r ddamwain, ond fod unrhyw farwolaeth yn annerbynniol.[17] Dywedodd hefyd y symudwyd cychwyn y rasus yn bennaf am resymau emosiynol.[17] Yn dilyn marwolaeth Kumaritashvili, mae'r FIL yn cydweithio gyda phwyllgor trefnu Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi er mwyn arafu'r trac yng Nghanolfan Llithro Cenedlaethol Rwsia yn Rzhanaya Polyana.[17]
Er y newidiadau, a dathliadau'r athletwyr a enillodd, taflodd marwolaeth Kumaritashvili gysgod dros y ras. Dywedodd rhai athletwyr a gyfranogodd eu bod yn teimlo ofn yn ystod eu llithriadau a croesawont y newidiadau, tra bod eraill yn beirniadu'r newidiadau gan gredu y buasent yn rhoi mantais i gychwynwyr cryf megs yr Almaenwyr.[18] Dywedodd Rubén González o'r Ariannin fod, "Duw wedi bendithio'r Almaenwyr heddiw".[18] Er hyn, adroddodd y wasg y newidiadau mewn golau positif wedi i dîm parau Awstria, Tobias a Markus Schiegl, gael damwain yn yr un tro lle bu farw Kumaritashvili.[19] Ni anafwyd y ddau yn y ddamwain.[19]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Again 110 Luge Athletes To Participate at Olympic Games. Fédération Internationale de Luge de Course. Adalwyd ar 19 Rhagfyr 2008.
- ↑ Road to Vancouver via the Viessmann World Cup. International Luge Federation. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2008.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Vancouver 2010 Olympic Winter Games Qualifications. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
- ↑ [tt_news=10631&tx_ttnews[backPid]=45&cHash=6e4e22e091 Chairman of Sport Commission Benz Jury Chairman at Olympic Winter Games]. Fédération Internationale de Luge de Course (15 Mehefin 2009). Adalwyd ar 19 Mehefin 2009.
- ↑ [tt_news=10681&tx_ttnews[backPid]=45&cHash=68d61689c2 No Doping Offences at Viessmann World Cups and FIL Championships]. FIL (21 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2009.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Olympic Luger Nodar Kumaritashvili Dies after Crash. BBC Sport (12 Chwefror 2010). Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ Men's Start Switched After Fatal Crash. Reuters (13 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
- ↑ "Georgian Luger Killed in Training", Toronto Sun, QMI Agency, 12 Chwefror 2010.
- ↑ Joint VANOC - FIL Statement on Men’s Luge Competition.
- ↑ [tt_news=11561&tx_ttnews[backPid]=331&cHash=c1df2390c8 Joined Statement of IOC, FIL, and VANOC]. FIL (12 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
- ↑ 11.0 11.1 [tt_news=11565&tx_ttnews[backPid]=331&cHash=5acc6adb41 Joint VANOC-FIL Statement on Men's Luge Competition]. FIL (13 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
- ↑ 12.0 12.1 Men's Olympic Lugers Will Start Lower on Track. NBCOlympics.com (12 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
- ↑ "Luge (Toboggan): Men". In The Complete Book of the Winter Olympics: 2010 Edition. (2009). David Wallechinsky and Jaime Loucky, Editor. Llundain: Aurum Press Limited. tud. 158.
- ↑ Luge:Luge Start Moved as Officials Defend Whistler Sliding Track. Vancouver2010.com (13 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
- ↑ 15.0 15.1 15.2 Martyn Herman (14 Chwefror 2010). Luge-Women Sliders Now Have Kids Race — German. Yahoo! Sports. Reuters. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
- ↑ Sportsmail Reporter (15 Chwefror 2010). Winter Olympics 2010: Felix Loch Wins Luge Gold after Changes Made to Course Following Death of Nodar Kumaritashvili. Mail Online. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
- ↑ 17.0 17.1 17.2 17.3 Sharon Reich (15 Chwefror 2010). Luge-FIL Considered Cancelling Competition. Yahoo! Sports. Adalwyd ar 16 Chwefror 2010.
- ↑ 18.0 18.1 Sean Gregory. "Still Fear — and Loathing — at the Luge Track", Time, 15 Chwefror 2010.
- ↑ 19.0 19.1 "Luge: Linger brothers retain luge doubles crown", Agence France-Presse, 17 Chwefror 2010.