Cawl
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | type of food or dish ![]() |
---|---|
Math | saig, Q118489612 ![]() |
Rhan o | Algerian cuisine ![]() |
Rhagflaenwyd gan | appetizer ![]() |
Olynwyd gan | plat de relevé ![]() |
Yn cynnwys | llysieuyn, sbeis, broth, hylif, dressing ![]() |
![]() |
- Gweler hefyd: Cawl Cymreig

Bwyd yw cawl, sy'n cael ei goginio gan gyfuno cynhwysion megis llysiau a chig gydag isgell, sudd, dŵr neu hylif arall. Bydd y cynhwysion solid hefyd yn rhoi blas i'r hylif. Mae cawl yn aml yn llawn maeth, ac yn fwyd iach fel rheol gan ei fod yn rhoi'r teimlad o fod yn llawn yn llawer cynt na nifer o fwydydd eraill.[1]
Yn draddodiadol, caiff cawliau eu dosbarthu mewn dau grŵp, cawliau clir a chawliau trwchus. Yn Ffrainc mae enwau penodol pellach ar gyfer y dosbarthiadau sef bouillon neu consommé am gawl clir. Caiff cawliau trwchus eu dosbarthu yn ôl y cyfrwng a ddefnyddir i'w drwchu: cawliau llysiau sydd wedi eu trwchu gyda starts yw purée; cragenbysgod ar ffurf purée, neu llysiau gyda hufen yw bisque; gall cawliau hufen cael eu trwchu gyda saws béchamel; a caiff cawliau veloutés eu trwchu gydag wyau, menyn a hufen. Defnyddir yn aml hefyd reis, blawd neu grawn i drwchu cawl.
Geirdarddiad[golygu | golygu cod]
Gair benthyg o'r Lladin yw "cawl", yn deillio o'r gair "caulis", sydd yn golygu 'coesyn planhigyn' neu 'goesyn bresych'.[2][3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Jack Challoner (26 Mai 2009). How soup can help you lose weight. BBC.
- ↑ Lewis, Henry. 1943. Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t. 34
- ↑ http://www.ultralingua.com/onlinedictionary/dictionary#src_lang=Latin&dest_lang=English&query=caulis