Neuaddlwyd, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Neuaddlwyd)
Neuadd-Lwyd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanfihangel Ystrad Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2133°N 4.234997°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Capel Neuaddlwyd

Pentref bach yn Nyffryn Aeron yng nghanolbarth Ceredigion yw Neuaddlwyd (Neuadd-lwyd). Gorwedda ger y briffordd A482 rhwng Aberaeron a Felin-fach. Mae yng nghymuned Llanfihangel Ystrad.

Nodwedd amlycaf Neuaddlwyd heddiw yw'r Capel, a saif ger y gyffordd â'r A482, ar y ffordd tuag at y Dderwen Gam.

Y tu blaen i'r Capel Annibynnol ceir cerflun nodedig o angel. Mae'r cerflun yn coffáu y cenhadon a aeth o Neuaddlwyd i Fadagasgar yn 1818. Cafodd y cenhadon eu haddysg gan y Parchedig Thomas Phillips yn Ysgol Neuaddlwyd, neu Academi Neuaddlwyd, sef sefydliad addysgol yn hanner cyntaf yr 19eg ganrif a saif ar dir fferm gerllaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]