Derwen-gam

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Derwen-gam
Oakford - geograph.org.uk - 202680.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.1984°N 4.2679°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Pentref yng nghanolbarth Ceredigion yw Derwen-gam, hefyd Derwen Gam (Saesneg: Oakford). Saif ar ffordd gefn i'r de o Aberaeron, yng nghymuned Henfynyw.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y pentref gan Morgan Evans, mab Thomas Evans o fferm Pontbrenddu, pan adeiladodd siop Rhydgwinllanau yn ystod y 1860au i wasanaethu'r ardal. Adeiladwyd hefyd rhes o fythynod i gartrefu crefftwyr a oedd yn darparu nwyddau i'w gwerthu yn y siop.

Rhoddwyd cryn sylw i'r pentref ar ddechrau'r 1970au pan fu farw disgynydd i Morgan Evans a rhoddwyd cyfran helaeth o'r eiddo ar werth, gan ail-leoli'r tenantiaid ym mhentref cyfagos Llwyncelyn. Gwerthwyd nifer o'r tai i'w defnyddio fel tai haf [3]. Coffhawyd y sefyllfa yn ddiweddarach mewn cân brotest gan Edward H Dafis.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3.  Cofio... : Dyma 1973. BBC.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.