Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1953
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1953 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Y Rhyl |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1953 yn y Rhyl, Sir y Fflint (Sir Ddinbych bellach).
| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Y Ffordd | "Ismael" | E. Llwyd Williams |
| Y Goron | Y Llen | "Hebog" | Dilys Cadwaladr |
| Y Fedal Ryddiaith | - | - | Neb yn deilwng |
| Tlws y Ddrama | - | - | Neb yn deilwng
[rhoddwyd £50 i F. G. Fisher a £50 i Gwynne D. Evans][1] |
Dilys Cadwaladr oedd y ferch gyntaf i gael ei choroni yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gan fod gwobrwyo merch yn brifardd yn ddigwyddiad prin yr adeg yma, galwyd tafarn ar Ffordd Rhuddlan o'r enw "The Crowned Bard" i gofio'r achlysur; mae dal yno heddiw. Nid oedd yna gytundeb ar goroni Dilys Cadwaladr. Roedd Saunders Lewis yn daer dros goroni gwaith Dyfnallt Morgan tra yr oedd J. M. Edwards a T. H. Parry-Williams yn unfryd yn erbyn. Yn ôl Saunders Lewis, mae'r gerdd yn disgrifio "terfyn gwareiddiad Cymraeg mewn cwm diwydiannol a'r llen haearn rhwng yr hen fywyd Cymreig a'r bwyd di-Gymraeg sy'n ei ddisodli."[1] Ceir pwyslais ar yr elfen lafar a cheir enghraifft hyfryd o dafodiaith Morgannwg. Ceir testun Y Llen yn unig gyfrol barddoniaeth Dyfnallt Morgan, Y Llen a Myfyrdodau Eraill.
Anerchodd Megan Lloyd George y dorf yno hefyd ac mae tâp o'i llais ar gael gan y BBC.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn y Rhyl