Llangeitho: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
llun
Llinell 1: Llinell 1:
Pentref yng nghanolbarth [[Ceredigion]] yw '''Llangeitho'''. Saif ym mhen uchaf [[Dyffryn Aeron]] ar lan ddwyreiniol [[Afon Aeron]]. Mae'r pentref ar groesfordd ar y B4342 7 milltir i'r gogledd o [[Llanbedr Pont Steffan|Lanbedr Pont Steffan]].

[[Delwedd:Afon Aeron, Llangeitho.jpg|250px|bawd|[[Afon Aeron]] ar gyrion Llangeitho]]
Am ganrifoedd bu Llangeitho'n gadarnle i'r iaith [[Gymraeg]], ond cafwyd [[mewnfudo|mewnlifiad]] mawr yn y [[1970au]] a arweiniodd at gwymp yn y canran o'r boblogaeth sy'n medru'r iaith o 83% yn 1971 i 55% yn 1981. Yn ôl cyfrifiad 2001 y ffigwr rwan yw 57%.

Fersiwn yn ôl 15:18, 8 Hydref 2008

Pentref yng nghanolbarth Ceredigion yw Llangeitho. Saif ym mhen uchaf Dyffryn Aeron ar lan ddwyreiniol Afon Aeron. Mae'r pentref ar groesfordd ar y B4342 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan.

Delwedd:Afon Aeron, Llangeitho.jpg
Afon Aeron ar gyrion Llangeitho

Am ganrifoedd bu Llangeitho'n gadarnle i'r iaith Gymraeg, ond cafwyd mewnlifiad mawr yn y 1970au a arweiniodd at gwymp yn y canran o'r boblogaeth sy'n medru'r iaith o 83% yn 1971 i 55% yn 1981. Yn ôl cyfrifiad 2001 y ffigwr rwan yw 57%.

Mae Llangeitho yn enwog yn hanes Cymru fel man geni y diwygiwr Methodistaidd Daniel Rowland, a aned yno yn 1713. Gwasanethodd fel curad yn Nantcwnlle a Llangeitho. Cododd gapel yn Llangeitho yn 1760 a ddaeth yn adnabyddus ledled Cymru fel canolfan Fethodistaidd. Tyrai bobl yn eu miloedd o bob rhan o'r wlad i wrando ar ei bregethau yn y capel hwnnw. Cafodd ei gladdu yn y pentref a cheir cofgolofn iddo yno. Cafwyd dau gapel arall i gymryd lle'r hen un, y cyntaf yn 1764 a'r ail yn 1814.

Mae eglwys Llangeitho, sy'n sefyll ar ochr ogleddol y pentref, yn hynafol ond cafodd ei hatgyweirio'n sylweddol ar ddiwedd y 19eg ganrif a difethwyd yr ysgrîn ddwbl ganoloesol hardd a'r hen risiau pren yn arwain i'r groglofft. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl Sant Ceitho. Ceir Ffynnon Geitho gerllaw; dywedir fod ei dŵr yn oer yn yr haf ond yn gynnes yn y gaeaf.

Yng nghyffiniau'r pentref ceir plasdy'r Cwrt Mawr, lle casglodd yr hynafiaethydd J. H. Davies y casgliad gwerthfawr o lawysgrifau Cymraeg a adwaenir fel Llawysgrifau Cwrtmawr, sy'n rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhodd gan J. H. Davies.

Ffynhonnell

  • T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1952)