Aber-miwl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Abermule)
Jump to navigation Jump to search
Aber-miwl
Abermule station (remains) geograph-3225016-by-Ben-Brooksbank.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.5428°N 3.2366°W Edit this on Wikidata
Cod OS SO162947 Edit this on Wikidata
Cod post SY15 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Russell George (Ceidwadwyr)
AS/au Glyn Davies (Ceidwadwr)

Pentref bach gwledig ym Mhowys yw Aber-miwl (Seisnigiad: Abermule). Fe'i lleolir tua thair milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Drenewydd ar lan ddwyreiniol Afon Hafren, rhwng y dref honno a Threfaldwyn. Mae'r A483 yn mynd heibio i'r pentref a'r B4386 yn mynd drwyddo.

Fe'i gelwir yn "Aber-miwl" am fod Afon Miwl, sy'n codi yn y bryniau ar y ffin i'r de o'r Drenewydd, yn aberu yn Afon Hafren ar ôl pasio drwy'r pentref.

Ceir un ysgol gynradd yn y pentref (Ysgol Gynradd Aber-miwl; Ysgol Gynradd Dolforwyn cyn hynny), siop y pentref, maes carafanau, tai newydd a dwy dafarn.

Lladdwyd 17 o deithwyr mewn damwain trên ddifrifol ger y pentref ar 26 Ionawr, 1921.

Yn ymyl y pentref saif olion Castell Dolforwyn, a godwyd gan y tywysog Llywelyn ap Gruffudd ym 1273.