Eglwysbach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Eglwysbach

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, gogledd Cymru, yw Eglwysbach (cyfeiriad grid SH803705). Mae'n gorwedd ar lôn wledig mewn dyffryn bychan yn y bryniau sy'n ymestyn i'r dwyrain fel cainc o Ddyffryn Conwy, sef Dyffryn Hiraethlyn. Mae tua 3 milltir i'r de o bentref Llansanffraid Glan Conwy (Glan Conwy), rhwng cymunedau bychain Graig a Pentre'r Felin. Mae'r plwyf yn gorwedd rhwng plwyfi Llansanffraid a Maenan.

Mae'r pentref yn adnabyddus am Sioe Eglwysbach, sioe amaethyddol a gynhelir yno ym mis Awst bob blwyddyn, ac sy'n cynnwys arddangosfeydd gwartheg, defaid a cheffylau, arddangosfeydd blodau, reidiau ffair a stondinau amrywiol.

Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 54% o drigolion Eglwysbach yn medru'r Gymraeg, ffigwr sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer sir Conwy ond sy'n sylweddol llai nag yn y gorffennol, yn bennaf oherwydd mewnfudo i'r ardal a diffyg tai fforddiadwy i bobl ifainc leol.

Tua milltir i'r gogledd o'r pentref ceir Gerddi Bodnant, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Enwogion [golygu]

Ganed John Evans, un o bregethwyr enwocaf Cymru yn y 19eg ganrif, yn Eglwysbach. Cyfeiria pobl ato fel "John Evans, Eglwysbach", ar hyd ei oes.

Ffynonellau [golygu]

  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)