Trefdraeth, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Trefdraeth (Môn))
Jump to navigation Jump to search
Trefdraeth
St. Beuno's Church, Trefdraeth. - geograph.org.uk - 102964.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.205°N 4.388°W, 53.2°N 4.4°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH406702 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)

Plwyf eglwysif a phentrefan yng nghymuned Bodorgan, Ynys Môn yw Trefdraeth. Mae 129.6 milltir (208.6 km) o Gaerdydd a 214.5 milltir (345.2 km) o Lundain.

Hanes y plwyf[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif y plwyf yn hen gwmwd Malltraeth, ac mae'n rhan o Ddeoniaeth Menai a Malltraeth. Llangwyfan yw eglwys y plwyf.

Mae'r enw Trefdraeth yn golygu "tref yn ymyl y traeth". Roedd yn lle pwysig gynt yn ystod Oes y Tywysogion am ei fod mor agos i Aberffraw a llys tywysogion Gwynedd. Yn yr Oesoedd Canol rhennid y dref rhwng Tref(draeth) Ddisteiniaid a Thref(draeth) Wastrodion, sef tir a berthynai i'r distain ("stiward" y llys) ac i'r gwastrod ("gofalwr y meirch" yn y llys).

Roedd Trefdraeth gynt yn rhan o gwmwd Malltraeth a oedd yn ei dro, gyda chwmwd Llifon, yn rhan o gantref Aberffraw (gweler Cantrefi a Chymydau Cymru).

Roedd gan Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion Gwalchmai ap Meilyr, Meilyr ap Gwalchmai, Einion ap Gwalchmai, ac efallai Elidir Sais yn ogystal, ddaliadau tir yn Nhrefdraeth.

Pobl o Drefdraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Sant Beuno[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Eglwys Sant Beuno yn eglwys plwyf, ganoloesol a cheir cofnod gan Angharad Llwyd (1780–1866) i'r egwlys wreiddiol gan ei godi yma yn 616. Ond nid oes unrhyw ran o unrhyw strwythur ohoni'n tarddu o'r 7g wedi goroesi; mae'r rhannau hynaf o'r adeilad presennol o'r 13g. Gwnaed newidiadau yn y canrifoedd dilynol gydag ychydig ohonynt yn ystod y 19g, adeg pan gafodd nifer o eglwysi eraill Ynys Môn eu hailadeiladu neu eu hadfer.

Tu allan[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolir Trefdraeth yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Albert Owen (Llafur).[1][2][3][4]

Cafoddei gofrestru yn Gradd II* gan Cadw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. What is listing? (pdf). Cadw. 2005. p. 6. ISBN 1-85760-222-6. 
  4. Cadw (2009). "Church of St. Beuno (Eglwys Beuno Sant)". Historic Wales. http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=5564. Adalwyd 21 Medi 2011.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]