Llanerchydol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanerchydol
Llanerchydol, Montgomeryshire.jpeg
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.659663°N 3.175973°W Edit this on Wikidata

Pentrefan yng nghymuned Y Trallwng, Powys, Cymru yw Llanerchydol (neu Llannerch Hudol), sydd 81.5 milltir (131.1 km) o Gaerdydd a 152 milltir (244.5 km) o Lundain. Roedd yn hen gwmwd canoloesol.

Cynrychiolir Llanerchydol yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Russell George (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Glyn Davies (Ceidwadwyr).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r enw o 'Llanerchydol' o enw hen gwmwd Cymreig, sef Llannerch Hudol a oedd ychydig i'r gogledd ac oddi fewn i gwmnwd Ystlyg yn Nheyrnas Powys. Ar ei ffiniau gorllewinol roedd 'Y Gorddwr' ac Ystrad Marchell i'r gogledd, Caereinion i'r dwyrain a Chedewain i'r dwyrain. Ceir cryn amrywiaeth ar y sillafiad: Llannerchwdwl, Llannerchudol, Llanerchudol a Llanerchydol.

Plasdy Llanerchydol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr hen blasdy; 1828

Cofrestrwyd y plasty hwn yn adeilad Gradd II*, ac fe'i leolwyd rhwng Llanfair Caereinion a Llanfyllin.[3] Fe'i codwyd ar ddechrau'r 19g mewn dull Gothig ac mae'r plasdy a'r gerddi mewn cyflwr da.[3][4] Cyn ei godi roedd yma dŷ Tuduraidd a losgodd yn ulw yn 1776. Oherwydd hyn y cododd gŵr lleol o'r enw David Pugh y plas, wedi iddo wneud ei ffortiwn yn Llundain yn gwerthu te.[4][5] View to part of Llanerchydol Hall.jpg


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. 3.0 3.1 "Llanerchydol Hall, Welshpool". British Listed Buildings. British Listed Buildings. Cyrchwyd 19 Ebrill 2015.
  4. 4.0 4.1 "LLANERCHYDOL HALL". Coflein.
  5. "1776 Gothic Revival – Llanerchydol Hall". Old House Dreams. Old House Dreams.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.