Cemaes

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bae Cemaes)
Jump to navigation Jump to search
Cemaes
Cemaes.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.411°N 4.453°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH370933 Edit this on Wikidata
Cod postLL67 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Gweler hefyd: Cemmaes (ym Mhowys), Cemais (cantref ym Môn) a Cemais (cantref yn Nyfed).

Mae Cemaes ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref gweddol fawr ar arfordir gogleddol Ynys Môn, ger Bae Cemaes lle mae Afon Wygyr yn cyrraedd y môr. Mae'n rhan o gymuned Llanbadrig. Saif ger y briffordd A5025 rhwng Amlwch a Llanrhuddlad. Mae'n bosibl mai dyma bentref mwyaf gogleddol Cymru, er y gellid dadlau mai pentref Llanbadrig yw hwnnw.

Bae Cemaes; 1961

Pentref gwyliau yw Cemaes yn bennaf erbyn heddiw, er bod pysgota wedi bod yn bwysig yn y gorffennol. Ceir dau draeth, harbwr, amrywiaeth o siopau a nifer o westai. Mae'r ardal o gwmpas y pentref yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio'r pentref. Ychydig i'r gorllewin mae gorsaf bŵer niwcliar yr Wylfa.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr Oesoedd Canol, Cemaes oedd canolfan cantref Cemais. Adferwyd yr eglwys hynafol, sydd wedi ei chysegru i Sant Padrig, yn 1865. 'Llanbadrig' oedd yr enw arni cyn hynny.

Roedd y diwydiant pysgota yn bwysig i'r pentref yn y gorffennol.

Cloch amser a llanw[golygu | golygu cod y dudalen]

Cloch amser a llanw, Bae Cemaes

Gosodwyd Cloch Amser a Llanw, dyfeisiwyd gan Marcus Vergette ar y traeth ym mis Ebrill 2014.[1]

Trwyn yr Wylfa ar fachlud haul
Machlud haul o'r traeth

Pobl o Gemaes[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu clwb pêl-droed y pentref, C.P.D. Bae Cemaes yn llwyddiannus iawn yn yr 1990au hwyr gan chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru. Maent bellach wedi disgyn sawl adran ac yn chwarae yng Nghynghrair Ynys Môn.[2]

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Approaching the Cemaes Brick Factory - geograph.org.uk - 1183058