Afon Wygyr
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.412413°N 4.436658°W |
![]() | |
Afon yng ngogledd Môn yw Afon Wygyr. Ei hyd yw tua pum milltir a hanner.[1]
Mae'r afon yn tarddu tua dwy filltir i'r de o Amlwch ger llethrau de-orllewinol Mynydd Parys. Oddi yno mae hi'n llifo i gyfeiriad y gogledd i ddechrau ac yna i gyfeiriad y gorllewin ar gwrs troellog gyda sawl ffrwd fechan yn llifo i mewn iddi. Ar ôl llifa trwy blwyf Llanbadrig mae hi'n cyrraedd tref fechan Cemaes ac yn aberu ym Môr Iwerddon ym Mhorth Wygyr (harbwr Cemaes).[1]

Ceir pont sy'n dwyn y ffordd A5025 dros yr afon ar gyrion Cemaes.[1]
