C.P.D. Bae Cemaes

Oddi ar Wicipedia
Bae Cemaes
Enw llawnClwb Pêl-droed Bae Cemaes
LlysenwauY Bae / The Bay
Sefydlwyd1976
MaesLôn yr Ysgol, Bae Cemaes, LL67 0LE
CadeiryddT. V. Hughes
RheolwrDarren Hughes
CynghrairCynghrair Bêl-droed Ynys Môn
2015-169fed
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Clwb pêl-droed ar Ynys Môn yw C.P.D. Bae Cemaes (Saesneg: Cemaes Bay FC). Lleolir y clwb ym mhentref Bae Cemaes ar yr Ynys. Maent ar hyn o'r bryd yn chwarae yng Nghyngrair Pêl-droed Ynys Môn ym 5ed reng pyramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru ond buont yn chwarae yng Nghyngrair Cenedlaethol Cymru rhwng 1995-1998, yr unig dîm o'r Ynys i chwarea yn y Gynghrair Genedlaethol yn ystod 25 mlynedd y Gynghrair.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ceir cofnodion o bêl-droed yn cael ei chwarae ym Maes Cemaes cyn-belled yn ôl ag 1870 a bu tîm gan yr enw Bae Cemaes (Cemaes Bay) yn chwarae rhwng 1948 ac 1955.[1]

Sefydlwyd clwb cyfredol C.P.D. Bae Cemaes yn 1976 gan ymuno â Chynghrair Ynys Môn yn nhymor 1976/77.[2]

Defnyddiodd y clwb adnoddau Atomfa Wylfa gyfagos gan chwarae am gyfnod ar faes Gwesty'r Gadlys yn 1980, cyn dychwelyr i'r Wylfa. Datblygwyd maes cyfredol Lôn yr Ysgol mewn amser ar gyfer ymuno â'r Cynghrair Undebol (y Cymru Alliance), sef prif gynghrair y Gogledd ac un haen o dan yr Uwch Gynghrair genedlaethol) yn 1990/91 ac yn dilyn llwyddiant yno dyrchafwyd nhw i Gynghrair Cymru (Uwch Gynghrair Cymru, bellach) yn 1995.[2]

Dechreuwyd cyfeirio at y clwb fel Cemaes Ynys Môn tua diwedd yr 1990au, er mwyn denu cefnogaeth yr Ynys i gyd. Bellach, dim ond fel Bae Cemaes y cyfeirir at y Clwb.

Yr 1990au Aur[golygu | golygu cod]

Yn 1991/92 enillodd Bae Cemaes Cwpan Cookson, gan guro C.P.D. Tref Llangefni 1-0 yn y ffeinal. Daliont eu gafael ar y Gwpan yn 1992/93, gan guro tîm wrth-gefn C.P.D. Dinas Bangor 5-0.

Enillodd Bae Cemaes bencampwriaeth Cynghrair Undebol y Gogledd (y Welsh Alliance) gan ennill dyrchafiad i'r Cymru Alliance. Yn 1994/5 wedi chwarea 25 gêm cynghrair yn olynol heb golli, coronwyd Bae Cemaes yn bencampwyr y Gynghrair Undebol (Welsh Alliance) a dyrchafwyd nhw i Gynghrair Cymru, y brif gynghair genedlaetol.[2]

Stryffaglu yn yr 2000au[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd 1997 ymddiswyddodd prif gefnogwr ariannol y Clwb a collwyd sawl chwaraewr. Bu Cymaes Ynys Môn yn stryffaglu am weddill tymor 1997/98 gan gwympo nôl i'r Cymru Alliance ar ddiwed dy tymnor. Er gwaethaf rhediad da am bedair tymor yn 2004/05 cwympodd y Clwb lawr gynghair eto, i'r Welsh Alliance ac yna yn 2005/06 disgn eto i'r Gwynedd League.

Ym mis Mawrth 2018 Cemaes Bay bu'r Clwb am gyfnod yn segur gan iddynt ymddiswyddo o Gynghrair y Welsh Alliance yn ystod y tymor gan ymuno â Chynghrair Ynys Môn ar gyfer tymor 2018/19.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Pencampwyr (1): 1994–95
Pencampwyr (1): 1992–93
  • Cwpan Cookson
Enillwyr (2): 1991–92, 1992–93
[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]