Hugh Owen (Huwco Môn)
| Hugh Owen | |
|---|---|
| Ffugenw | Huwco Môn |
| Ganwyd | 1835 Cemaes |
| Bu farw | 21 Medi 1892 Ynys Môn |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, hanesydd |
- Am bobl eraill o'r un enw gweler Hugh Owen.
Hanesydd a bardd Cymraeg o Gymru oedd Hugh Owen (1835 - 21 Medi 1892). Roedd yn adnabyddus wrth ei enw barddol Huwco Môn. Roedd yn frodor o Ynys Môn ac yn arbenigwr ar hanes ei sir enedigol, Sir Fôn.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Hugh yng Nghemaes ym mhlwyf Llanbadrig yn Sir Fôn yn 1835. Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol ond ymroes i addysgu ei hun i safon da. Am gyfnod pan yn ieuanc bu'n pregethu gyda'r Annibynwyr.[1]
Cyfranodd lawer o erthyglau ar hanes a hynafiaethau Cymru i'r cylchgronau Cymraeg. Roedd yn fardd yn ogystal. Fe'i cofir yn bennaf am ei gyfrol ar hanes plwyfi Cemaes, Llanfechell, Llanbabo, Cemlyn, Llanfair-yng-Nghornwy, Tregele a Charreglefn a gyhoeddwyd yn 1890.[1]
Bu farw ar y 21ain o Fedi 1892; claddwyd ef ym mynwent Llanbadrig, Sir Fôn.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Henafiaethau Cemaes, Llanfechell, Llanbabo, Cemlyn, Llanfair-yng-Nghornwy, Tregele a Charreglefn (1890)