Llanfair Pwllgwyngyll: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fy:Llanfair PG |
B robot yn ychwanegu: zh-min-nan:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch |
||
Llinell 70: | Llinell 70: | ||
[[uk:Лланвайрпуллгвінгіллгогерихуїрндробуллллантисиліогогогох]] |
[[uk:Лланвайрпуллгвінгіллгогерихуїрндробуллллантисиліогогогох]] |
||
[[zh:兰韦尔普尔古因吉尔戈格里惠尔恩德罗布尔兰蒂西利奥戈戈戈赫]] |
[[zh:兰韦尔普尔古因吉尔戈格里惠尔恩德罗布尔兰蒂西利奥戈戈戈赫]] |
||
[[zh-min-nan:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]] |
Fersiwn yn ôl 21:58, 8 Medi 2009
Llanfairpwll Ynys Môn |
|
Pentref ar Ynys Môn yw Llanfair Pwllgwyngyll (neu Llanfairpwllgwyngyll; Llanfairpwll ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ar ffordd yr A5 tua 3 milltir i'r gorllewin o Borthaethwy. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o cwmwd Dindaethwy, cantref Menai.
Yr enw
Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yw enw gwneud y pentref. Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynwyd gan ddyn lleol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yr ynys (1846-1850) i geisio denu twristiaid. Yn ôl Syr John Morris-Jones, teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng Nghymru, a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn Llanfairpwll (gan siaradwyr Cymraeg) neu Llanfair PG (gan siaradwyr Saesneg). Pwllgwyngyll oedd enw'r dref ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (pwll + yr ansoddair gwyn + coed cyll).
Y pentref
Mae gorsaf reilffordd yma, ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, ond mae mwyafrif y trenau yn mynd trwyddo i Gaergybi neu i Fangor heb aros.
Ceir gwybodaeth am drenau a thocynnau rheilffordd i Lanfairpwll ar linell Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol (08457 484950).
Yn y pentref hwn y dechreuodd mudiad y Women's Institute yn 1915.
Atyniadau yn y cylch
- Bryn Celli Ddu - siambr gladdu Neolithig, tua 2 filltir i'r de-orllewin o'r pentref
- Cofgolofn Ardalydd Môn
- Plas Newydd - plasdy crand
Cysylltiadau allanol
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele