Morus Dwyfech

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Morus Dwyfach)
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg o'r 16eg ganrif oedd Morus Dwyfech, sef Morus ap Dafydd ab Ifan ab Einion (bl. 15231590). Cafodd ei enw barddol o'r afon Dwyfech (Dwyfach heddiw; ceir y ffurf ddiweddar ar ei enw barddol Morus Dwyfach hefyd), ger Cricieth, Gwynedd.

Brodor o Eifionydd oedd Morus Dwyfech. Roedd yn fardd proffesiynol a ganai i rai o deuluoedd mawr Gwynedd, yn enwedig rhai Llŷn ac Eifionydd, yn cynnwys teuluoedd Penyberth, Cefnamwlch a Talhenbont.

Graddiodd yn Eisteddfod Caerwys 1523, y gyntaf o'r ddwy Eisteddfod Caerwys. Daeth yn fardd teulu ym mhlas Cefnamwlch ond crwydrai'r gogledd-orllewin yn clera hefyd, fel y rhan fwyaf o'i gyd-feirdd. Yn ogystal â'i chanu mawl cyfansoddodd gerddi crefyddol a cherddi dychan hefyd. Un o'i gerddi mwy anghyffredin yw'r 'Cywydd moliant i Lŷn'.

Bu farw tua dechrau'r 1590au a chafodd ei gladdu ym mynwent plwyf Penllech, Cymydmaen, Llŷn.

[golygu] Llyfryddiaeth

StubWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill