Llanelian-yn-Rhos

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llaneilian-yn-Rhos)
Llanelian-yn-Rhos
Mynedfa eglwys Llanelian-yn-Rhos
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr162.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2721°N 3.705723°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH863763 Edit this on Wikidata
Cod postLL29 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Betws-yn-Rhos, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanelian-yn-Rhos,[1][2] weithiau Llaneilan-yn-Rhos. Mae'n gorwedd yn y bryniau ger arfordir Gogledd Cymru, tua milltir a hanner i'r de o Hen Golwyn. Ceir golygfeydd braf o ben y lôn gul sy'n dringo o Hen Golwyn dros ardal Bae Colwyn a'r môr.

Ceir sawl hen fwthyn yn y pentref sy'n dyst i'w hanes. Fe'i gelwir yn Llanelian-yn-Rhos am ei bod yn gorwedd yn hen gantref Rhos, a fu hefyd yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a phlwyf Llaneilian arall, ym Môn.

Ffynnon Eilian[golygu | golygu cod]

Bu Llanelian yn enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian, sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Fel y plwyf ei hun, fe'i cysylltir â Sant Eilian, un o gyfoeswyr Sant Seiriol, yn ôl traddodiad. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd hyd at ddechrau'r 20g fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan swyn i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon.

Gŵr o'r enw John Edwards oedd ceidwad olaf y ffynnon. Roedd yn ennill bywoliaeth dda o'r swydd am ei fod yn gofyn tâl am godi'r fellith hefyd ac felly'n elwa dwywaith. Ar ôl i'r Eglwys dderbyn cwynion, llenwyd y ffynnon hynafol gan yr awdurdodau yn 1829 a chafodd Edwards ddirwy o 15 swllt. Ond nid ataliwyd y pererinion a ddeuai yno hyd at flynyddoedd cynnar yr 20g i gael bendith (neu felltith).[3][4]

Enwogion[golygu | golygu cod]

  • Ganed y llenor enwog Thomas Gwynn Jones ym mhlwyf Betws-yn-Rhos, ond symudodd y teulu i fyw yn Llanelian-yn-Rhos lle treuliodd ei lencyndod. Ceir atgofion y bardd am yr ardal ym mhennod gyntaf ei gyfrol hunangofiannol Brithgofion (Llyfrau'r Dryw, 1941).
  • Ar 18 Rhagfyr 2018 penodwyd George Lloyd, a aned yn Llanelian, yn Esgob Llanelwy.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tt. 223–234.
  4. Samuel Lewis, Topographical Dictionary of Wales (Llundain, 1843), cyfrol II.