Ffynnon Eilian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Ffynnon Eilian (yr hen enw oedd: "Eilian ab Gallgu Redegog o hil Cadros Calchfynydd") yn ffynnon sydd wedi'i lleoli ger Llaneilian yn Rhos, Conwy ac wedi'i galw'n "ffynnon felltithio enwocaf Cymru".

Mae wedi'i lleoli oddeutu 30 metr o Gapel y Nant, Llanelian ar dir fferm o’r enw "Cefn Ffynnon" ger Llaneilian yn Rhos, a gellir ei chyrraedd drwy ddringo'r giât yn union gyferbyn â giatiau Parc Eirias ym Mae Colwyn. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ffynhonnau Cymru, caiff ei chysyllt gya rhinweddau iachusol a melltithiol: melldith a bendith. Disgrifir y ffynnon gan Gymdeithas Ffynhonau Cymru fel "ffynnon felltithio enwocaf Cymru".[1]

Mewn erthygl yn Goleuad Gwynedd ym Mai 1819, ceir adroddiad am y Frawdlys Chwarterol a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug ar Ebrill 1819 le'r adroddwyd am berson o'r enw Edward Pierce, Llandyrnog, yn dwyn cyhuddiad yn erbyn un John Edwards, Berthddu, Llaneurgain, am iddo roi enw Edward Pierce yn Ffynnon Elian, ac y deuai rhyw ddrygau ac aflwyddiant dirfawr arno; ond y gallai efe attal y drygau hyn, trwy dynu ei enw allan o'r Ffynnon, os talai efe bymtheg swllt iddo. A thrwy y chwedl ffuantus hon, derbyniodd John Edwards gan Edward Pierce swm o arian, sef pedwar-swllt-ar-ddeg a chwe'cheiniog, a hynny trwy dwyll a rhith.

Mae'r erthygl yn adrodd fod y

Rheithwyr wedi ymgynghori am ychydig fynydau, a farnasant John Edwards yn euog. Yna fe'i dan fonwyd yn ol, gan ei orchymyn i gael ei ddwyn i dderbyn ei ddedfryd y dydd canlynol. Barnodd y Llys fod ei drosedd yn haeddu alltudiaeth (transportation), ond wrth ystyried mai y troseddiad cyntaf iddo ydoedd, a'i fod wedi ei garcgaru er y Brawdlys diwethaf, hwy a'i barnasant ef i gael ei garcharu ym mhellach am ddeuddeg mis.

Yn Goleuad Cymru, Rhagfyr 1828 cyhoeddwyd yr englyn hwn gan Twm o'r Nant i Ffynnon Eilian: ffynnon felltithio enwocaf Cymru

Ffynnon ebolion Belial - a'i phennod
Yn ffynnon ymddial;
Nyth melldithwyr, swynwyr sâl,
Min dibyn mynydd Ebal.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cymdeithas Ffynhonau Cymru; adalwyd 3 Mawrth 2014.