Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024
← Blaenorol | Nesaf → | |
Lleoliad | Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd | |
---|---|---|
Cynhaliwyd | 3–10 Awst 2024 | |
Archdderwydd | Mererid Hopwood | |
Llywydd | Cennard Davies | |
Medal T.H. Parry-Williams | Penri Roberts a Linda Gittins[1] | |
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg | Rhodri Jones[2] |
Cynhalir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf, rhwng 3 - 10 Awst 2024. Hwn fydd Eisteddfod gyntaf yr Archdderwydd Mererid Hopwood.
Llywydd yr ŵyl yw Cennard Davies, athro a dreuliodd ddegawdau yn dysgu Cymraeg i oedolion.[3]
Y Maes
[golygu | golygu cod]Yn Awst 2023 cyhoeddwyd mai Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd fyddai cartref yr Eisteddfod.[4] (51°36′09″N 3°20′15″W / 51.602575°N 3.337636°W)
Bydd Maes B yn cael ei gynnal ar gaeau Ysgol Uwchradd Pontypridd a bydd y maes Carafanau a gwersylla ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch. Mae Llwybr Tâf yn cysylltu y tri lleoliad.[5] Bydd y ganolfan groeso a swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd a maes parcio hygyrch ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin. Defnyddiwyd tir Ysgol y Ddraenen Wen a Phrifysgol De Cymru, Trefforest, ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio, yn ogystal â safle Parcio a Theithio presennol Abercynon.[6]
Prif gystadlaethau
[golygu | golygu cod]Y Gadair
[golygu | golygu cod]Noddwyd y Gadair a'r wobr ariannol gan Ysgol Llanhari wrth i'r sefydliad ddathlu 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn y sir. Dyluniwyd y Gadair gan Berian Daniel a fu'n cydweithio gyda disgyblion ysgol Gymraeg lleol i gael ysbrydoliaeth. Daw'r derw'r gadair o goeden hynafol fu'n tyfu ger cartre’ Iolo Morgannwg yn y Bontfaen ac mae'r cynllun hefyd yn cynnwys glo a haearn i adlewyrchu hen ddiwydiant yr ardal.[7]
Y Goron
[golygu | golygu cod]Noddwyd y Goron a'r wobr ariannol gan Ysgol Garth Olwg. Dyluniwyd y Goron gan Elan Rhys Rowlands o Gaernarfon. Yn 23 mlwydd oed hi yw un o'r ieuengaf erioed i wneud hynny. Wedi graddio o Brifysgol Birmingham, dywedodd mai dylunio'r goron oedd y "job gynta', yn yr wythnos gynta'" ar ôl dechrau yn ei swydd gyda chwmni Neil Rayment Goldsmiths.[8]
Gwobr Goffa Daniel Owen
[golygu | golygu cod]Y Fedal Ryddiaith
[golygu | golygu cod]Y Fedal Ddrama
[golygu | golygu cod]Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Fe anrhydeddir y canlynol a'u croesawu i Orsedd y Beirdd:
Gwyrdd
[golygu | golygu cod]- Anne England
- Nerys Howell
- Angharad Lee
- Elin Llywelyn-Williams
- Catrin Rowlands
- Derrick Rowlands
- Mari Morgan
- Shân Eleri Passmore
- Siwan Rosser
- Peter Spriggs
- Llinos Swain
- Meilyr Hedd Tomos
- Gareth Williams
- Siân Rhiannon Williams
Glas
[golygu | golygu cod]- Delyth Badder
- Carol Bell
- Jamie Bevan
- Dafydd Trystan Davies
- Geraint Davies
- Michelle Davies
- Joseff Gnagbo
- Margot Ann Phillips Griffith
- Gill Griffiths
- Rosa Hunt
- Awen Iorwerth
- Gethin Lloyd James
- Theresa Mgadzah Jones
- David Lloyd-Jones
- Ian Wyn Rees
- Rhuanedd Richards
- David Roberts
- Elfed Roberts
- Elinor Snowsill
- Derec Stockley
- Hazel Thomas
- John Thomas
- Mark Vaughan
- Ynyr Williams
Tu allan i Gymru
[golygu | golygu cod]- Megan Williams (glas)
- Simon Chandler (gwyrdd)[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Medal Goffa Syr TH Parry-Williams i sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwyn". BBC Cymru Fyw. 2024-07-25. Cyrchwyd 2024-07-26.
- ↑ "Dr Rhodri Jones yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2024-07-22. Cyrchwyd 2024-07-22.
- ↑ "Cennard Davies yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-06-10. Cyrchwyd 2024-06-10.
- ↑ "Pontypridd i lwyfannu Eisteddfod drefol yn 2024". BBC Cymru Fyw. 2023-08-07. Cyrchwyd 2023-08-07.
- ↑ "Lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-03-06.
- ↑ "Rhyddhau cynlluniau lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024". www.rctcbc.gov.uk. Cyrchwyd 2024-03-06.
- ↑ "Dadorchuddio Cadair a Choron Prifwyl Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-06-13. Cyrchwyd 2024-06-15.
- ↑ "Dylunio Coron yr Eisteddfod yn 23 oed yn 'freuddwyd'". BBC Cymru Fyw. 2024-06-15. Cyrchwyd 2024-06-15.
- ↑ "Anrhydeddau'r Orsedd 2024: Y de". BBC Cymru Fyw. 2024-05-20. Cyrchwyd 2024-05-24.