Llanelian-yn-Rhos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1: Llinell 1:
[[Pentref]] bychan ynm [[Conwy (sir)|Mwrdeisdref Sirol Conwy]] yw '''Llaneilian-yn-Rhos''' (ceir yr amrywiad ''Llaneilan-yn-Rhos'' weithiau, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg). Mae'n gorwedd yn y bryniau ger arfordir [[Gogledd Cymru]], tua milltir a hanner i'r de o [[Hen Golwyn]]. Ceir golygfeydd braf o ben y lôn gul sy'n dringo o Hen Golwyn dros ardal [[Bae Colwyn]] a'r môr.
[[Pentref]] bychan ynm [[Conwy (sir)|Mwrdeisdref Sirol Conwy]] yw '''Llaneilian-yn-Rhos''' (ceir yr amrywiad ''Llaneilan-yn-Rhos'' weithiau, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg) {{gbmapping|SH863764}}. Mae'n gorwedd yn y bryniau ger arfordir [[Gogledd Cymru]], tua milltir a hanner i'r de o [[Hen Golwyn]]. Ceir golygfeydd braf o ben y lôn gul sy'n dringo o Hen Golwyn dros ardal [[Bae Colwyn]] a'r môr.

Ceir sawl hen fwthyn yn y pentref sy'n dyst i'w hanes. Fe'i gelwir yn Llaneilian''yn-Rhos'' am ei bod yn gorwedd yn hen [[cantref|gantref]] [[Rhos]], a fu hefyd yn un o [[Teyrnasoedd Cymru|deyrnasoedd cynnar Cymru]], er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a phlwyf [[Llaneilian]] arall, ym Môn.

== Ffynnon Eilian ==
== Ffynnon Eilian ==
[[Delwedd:Llaneilian1.jpg|250px|bawd|Eglwys Llaneilian-yn-Rhos: mynedfa]]
[[Delwedd:Llanelian yn Rhos church - geograph.org.uk - 154993.jpg|bawd|Eglwys Llaneilian-yn-Rhos: mynedfa]]
Bu Llaneilian yn enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian, sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Fel y plwyf ei hun, fe'i cysylltir â [[Sant]] [[Eilian]], un o gyfoeswyr Sant [[Seiriol]], yn ôl traddodiad. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd hyd at ddechrau'r 20fed ganrif fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan [[swyn]] i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon.

Fersiwn yn ôl 20:11, 23 Medi 2010

Pentref bychan ynm Mwrdeisdref Sirol Conwy yw Llaneilian-yn-Rhos (ceir yr amrywiad Llaneilan-yn-Rhos weithiau, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg) cyfeiriad grid SH863764. Mae'n gorwedd yn y bryniau ger arfordir Gogledd Cymru, tua milltir a hanner i'r de o Hen Golwyn. Ceir golygfeydd braf o ben y lôn gul sy'n dringo o Hen Golwyn dros ardal Bae Colwyn a'r môr.

Ceir sawl hen fwthyn yn y pentref sy'n dyst i'w hanes. Fe'i gelwir yn Llaneilianyn-Rhos am ei bod yn gorwedd yn hen gantref Rhos, a fu hefyd yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a phlwyf Llaneilian arall, ym Môn.

Ffynnon Eilian

Eglwys Llaneilian-yn-Rhos: mynedfa

Bu Llaneilian yn enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian, sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Fel y plwyf ei hun, fe'i cysylltir â Sant Eilian, un o gyfoeswyr Sant Seiriol, yn ôl traddodiad. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd hyd at ddechrau'r 20fed ganrif fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan swyn i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon.

Gŵr o'r enw John Edwards oedd ceidwad olaf y ffynnon. Roedd yn ennill bywoliaeth dda o'r swydd am ei fod yn gofyn tâl am godi'r fellith hefyd ac felly'n elwa dwywaith. Ar ôl i'r Eglwys dderbyn cwynion, llenwyd y ffynnon hynafol gan yr awdurdodau yn 1829 a chafodd Edwards ddirwy o 15 swllt. Ond nid ataliwyd y pererinion a ddeuai yno hyd at flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif i gael bendith (neu felltith).[1][2]

Enwogion

Ganed y llenor enwog Thomas Gwynn Jones ym mhlwyf Betws yn Rhos, ond symudodd y teulu i fyw yn Llaneilian-yn-Rhos lle treuliodd ei lencyndod. Ceir atgofion y bardd am yr ardal ym mhennod gyntaf ei gyfrol hunangofiannol Brithgofion (Llyfrau'r Dryw, 1941).

Cyfeiriadau

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tt. 223-234.
  2. Samuel Lewis, Topographical Dictionaray of Wales (Llundain, 1843), cyfrol II.