Penwyllt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Stryd Powell, Penwyllt.

Hen bentref chwarel yn ne Powys yw Penwyllt. Fe'i lleolir yn ardal Brycheiniog tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ystradgynlais ger pentref Craig-y-nos. Mae'n gorwedd yn y Fforest Fawr o fewn terfynau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yr unig ffordd i gyrraedd y pentref anghysbell hwn gyda modur yw trwy ddringo lôn o'r A4067 ger Craig-y-nos. Bu'n gymuned fywiog ar un adeg ond mae llawer o'r bythynnod yn adfeilion erbyn hyn. Defnyddir un rhes o dai, sef 1-10 Stryd Powell, fel canolfan gan Glwb Ogofu De Cymru a Thîm Achub Ogofâu Gorllewin Brycheiniog. Gerllaw ceir y fynedfa i Ogof Ffynnon Ddu, un o'r rhwydweithiau ogofâu mwyaf yng ngwledydd Prydain sy'n denu ogofwyr (cavers) o sawl gwlad.


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.