Manafon
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 321 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.612044°N 3.310561°W |
Cod SYG | W04000328 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Manafon.[1] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir yn ardal Maldwyn, 2 filltir a hanner i'r de o bentref Llanfair Caereinion ac 8 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar lôn y B4390.
Saif Manafon ar ddwy lan Afon Rhiw mewn ardal o fryniau isel coediog a ffermydd ar wasgar. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Mae eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Mihangel, yn bur hynafol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cysylltiadau llenyddol
[golygu | golygu cod]Bu'r bardd a golygydd Gwallter Mechain (Walter Davies) yn ficer Manafon am gyfnod o 30 mlynedd, o 1807 hyd 1837, a chynhyrchodd ran helaeth o'i waith llenyddol yno. Bu Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yno am gyfnod ganol y 18g.
Treuliodd y bardd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor Manafon (1942-1954). Cafodd yr ardal ddylanwad dwfn arno. Yno yr aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ac mae rhai o'i gerddi mwyaf adnabyddus, sy'n ymwneud â chymdeithas amaethyddol y fro, natur, a hanes Cymru yn deillio o'r amser hwnnw. Ceir pennod am ei brofiadau yn y fro yn ei hunangofiant Neb. Dyma un o'i ddisgrifiadau o Fanafon o'r gyfrol honno, a ysgrifennir yn y trydydd berson:
- "O'r braidd fod Manafon yn bod. Doedd yno ddim pentref, dim ond eglwys, ysgol, tafarn a siop. Gwasgarwyd y ffermydd hyd y llethrau yn fân-ddaliadau ar y cyfan gydag ambell fferm mwy sylweddol. Saes-Gymry oedd y bobl, gydag enwau Cymraeg ac acen Sir Amwythig. Daethant yn destun ei farddoniaeth."[7]
Defnyddiodd y cerddor David Sylvian brofiadau R. S. Thomas ym Manafon yn sail i'w albwm Manafon (2009).
Enwogion
[golygu | golygu cod]David Lloyd (1656 - 1731) cyfreithiwr a gwleidydd Cymreig ym Mhennsylvania
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ R. S. Thomas, Neb (Gwasg Gwynedd), tud. 42.
Trefi
Aberhonddu · Crucywel · Y Drenewydd · Y Gelli Gandryll · Llanandras · Llandrindod · Llanfair-ym-Muallt · Llanfyllin · Llanidloes · Llanwrtyd · Machynlleth · Rhaeadr Gwy · Talgarth · Y Trallwng · Tref-y-clawdd · Trefaldwyn · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir · Aberbrân · Abercegir · Abercraf · Aberedw · Abergwesyn · Abergwydol · Aberhafesb · Aberhosan · Aberllynfi · Aber-miwl · Aberriw · Abertridwr · Aberysgir · Adfa · Arddlin · Bachelldref · Y Batel · Betws Cedewain · Beulah · Bochrwyd · Bontdolgadfan · Y Bontnewydd-ar-Wy · Bronllys · Bugeildy · Bwlch · Caersŵs · Capel Isaf · Capel Uchaf · Capel-y-ffin · Carno · Casgob · Castell Caereinion · Castell-paen · Cathedin · Cegidfa · Cemaes · Ceri · Cilmeri · Y Clas-ar-Wy · Clatter · Cleirwy · Cnwclas · Coedybrenin · Coelbren · Comins-coch · Crai · Craig-y-nos · Crugion · Cwmdu · Cwm-twrch · Darowen · Defynnog · Derwen-las · Dolanog · Dolfor · Dylife · Einsiob · Erwd · Esgairgeiliog · Felindre, Maldwyn · Felin-fach · Y Foel · Ffordun · Gaer · Garth · Glan-miwl · Glantwymyn · Glasgwm · Y Groes · Gwenddwr · Heol Senni · Isatyn · Kinnerton · Libanus · Llan · Llanafan Fawr · Llananno · Llanarmon Mynydd Mawr · Llanbadarn Fynydd · Llanbadarn Garreg · Llanbister · Llanbryn-mair · Llandinam · Llandrinio · Llandyfaelog Tre'r-graig · Llandysilio · Llandysul · Llan-ddew · Llanddewi yn Hwytyn · Llanddewi Ystradenni · Llanelwedd · Llanerfyl · Llanfair Caereinion · Llanfair Llythynwg · Llanfechain · Llanfihangel Nant Brân · Llanfihangel Nant Melan · Llanfihangel Rhydieithon · Llanfihangel Tal-y-llyn · Llanfihangel-yng-Ngwynfa · Llanfrynach · Llangadfan · Llangadwaladr · Llangamarch · Llangasty Tal-y-llyn · Llangatwg · Llangedwyn · Llan-gors · Llangurig · Llangynidr · Llangynllo · Llangynog · Llangynyw · Llanhamlach · Llanigon · Llanllugan · Llanllwchaearn · Llanllŷr · Llanrhaeadr-ym-Mochnant · Llansanffraid Cwmdeuddwr · Llansanffraid-ym-Mechain · Llansantffraed (Aberhonddu) · Llansantffraed-yn-Elfael · Llansilin · Llanwddyn · Llanwnnog · Llanwrin · Llanwrthwl · Llanwyddelan · Llanymynech · Llan-y-wern · Llawr-y-glyn · Llechfaen · Llowes · Llys-wen · Llywel · Llwydiarth · Manafon · Meifod · Merthyr Cynog · Mochdre · Nant-glas · Nantmel · Pandy · Pencelli · Pencraig · Penegoes · Pengefnffordd · Pennant Melangell · Pentrefelin · Penybont · Pen-y-bont-fawr · Pilalau · Pipton · Pont-faen · Pontneddfechan · Pontrobert · Pontsenni · Pwllgloyw · Saint Harmon · Sarn · Sarnau, Brycheiniog · Sarnau, Maldwyn · Sgethrog · Snead · Sycharth · Talachddu · Talerddig · Tal-y-bont · Tal-y-bont ar Wysg · Tirabad · Trallong · Trecastell · Trefeca · Trefeglwys · Tregynon · Trelystan · Tre'r-llai · Tretŵr · Tre-wern · Walton · Yr Ystog