Llanwnnog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llanwnog)
Llanwnnog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5338°N 3.4431°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan gwledig a phlwyf eglwysig yng nghymuned Caersŵs, Powys, Cymru, yw Llanwnnog[1] (hefyd Llanwnog).[2] Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn ger yr A470, tua 6 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Cyflwynir eglwys y plwyf i Sant Gwynno (ceir sawl ffurf ar yr enw, yn cynnwys Gwn[n]og).

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Arwystli. Roedd y bardd Llywelyn ab y Moel (bl. tua 1395 - 1440), a adnabyddir hefyd fel Llywelyn ap Moel y Pantri, yn frodor o Lawnnog, yn ôl pob tebyg, ac mae'n bosibl y ganed ei fab Owain ap Llywelyn ab y Moel yno hefyd.

Mae'n bosibl mai yn Llanwnnog, plwyf enedigol ei dad, y ganed yr argraffydd a gwerthwr llyfrau Stafford Prys (1732-1784).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.