Llanddeusant, Ynys Môn
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn, Tref Alaw |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3404°N 4.4873°W |
Cod OS | SH345855 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
- Am y pentref o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin.
Pentref a phlwyf englwysig yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, yw Llanddeusant[1][2] ( ynganiad ). Saif i'r gogledd o Afon Alaw ac i'r gorllewin o gronfa ddŵr Llyn Alaw.
Un o atyniadau nodweddiadol y pentref yw Melin Llynnon, yr unig felin wynt sy'n parhau i weithio a chynhyrchu blawd yng Nghymru heddiw. Yn ogystal, mae yna felin ddŵr yn y pentref ar lan Afon Alaw, o'r enw 'Melin Hywel'; mae ar agor i'r cyhoedd yn yr haf ar ôl iddi gael ei hatgyweirio yn 1975. Cofnodir melin yn y plwyf yn 1352.
Ysgol
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Ysgol Llanddeusant yn y pentref yn 1847. Er gwaethaf ymdrechion pobl leol i'w hachub[3], caewyd Ysgol Gynradd Llanddeusant yng Ngorffennaf 2011 ar ôl gwasanethu'r pentref am 160 mlynedd. Ar yr 2il o Hydref 2013, rhoddodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Ynys Môn ganiatad i'r cyngor ddymchwel adeilad yr ysgol a chodi 8 o dai ar y safle.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Robert ap Huw (1580 - 1665). Telynor enwog, bardd ac awdur llawysgrif ar gerddoriaeth gynnar Cymru, a aned ym Modwigan, ym mhlwyf Llanddeusant.
- John Prydderch Williams (Rhydderch o Fôn) (1830-1868). Bardd, llenor a golygydd.
Gweinidogion
[golygu | golygu cod]- Griffith Williams
- ”15 Ebrill 1894: Griffith Williams Llanddeusant. Bachgen ieuanc newydd ddechrau pregethu. Amcanu yn dda. Cyfarfod gweddi yn yr hwyr.”[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
- ↑ Ysgol Llanddeusant attacks Anglesey council over closure, Daily Post, 4 Medi 2010.
- ↑ Dyddiadur Owen Hughes, Tregwehelyth, Bodedern, Môn (Gyda diolch i Enid Gruffudd, Gwasg y Lolfa)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Treftadaeth Môn: Melin Llynnon Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback
- Treftadaeth Môn: Melin Ddŵr Howell Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele