Bedd Branwen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Safle Bedd Branwen

Mae Bedd Branwen yn gladdfa o Oes yr Efydd yng ngogledd Ynys Môn. Saif yn agos i bentref Llanddeusant a gerllaw Afon Alaw.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu cloddio archaeolegol yma yn 1966, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau. Mae'r safle yn domen o bridd gyda charreg fawr ynghanol y domen, sy'n dyddio o ychydig cyn 2000 C.C.. Yn y domen mae nifer o gladdedigaethau ar wahan, yn dyddio o'r cyfnod rhwng 2000 C.C. a 1000 C.C.. Roedd olion esgyrn wedi eu llosgi a chrochenwaith e.e. wrn gyda choler. Yn wahanol i gladdfeydd o'r cyfnod mewn rhai rhannau eraill o Ynysoedd Prydain, mae'r claddedigaethau i gyd yn ymddangos yn weddol gyfartal o ran eu safle yn y domen, heb un yn amlwg yn brif gladdedigaeth. Gwahaniaeth arall yw nad oedd arfau ymysg y darganfyddiadau, sydd efallai yn awgrymu cymdeithas mwy cyfartal a mwy heddychlon yn yr ardal yma nag mewn rhannau eraill o'r ynysoedd.[1]

Chwedl Branwen[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn chwedl Branwen ferch Llŷr, yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi, mae cyfeiriad at Branwen yn marw o dor-calon gerllaw Afon Alaw ac yn cael ei chladdu yno:

Ac yna y llas y benn ef (Bendigeidfran), ac y kychwynassant a'r pen gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Talebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. "Oy a uab Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da [o] dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i." A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.[2]

Ni wyddir beth yn union yw'r cysylltiad rhwng enw presennol y gladdfa a'r chwedl. Yn sicr mae'r gladdfa'n deillio o gyfnod llawer cynharach na'r un a awgrymir yn y chwedl yn ei ffurf bresennol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales).
  2. Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930).