Afon Alaw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Alaw
Afon Alaw 519500.jpg
Math afon Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Bedd Branwen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.3029°N 4.5485°W Edit this on Wikidata
Tarddiad Llannerch-y-medd Edit this on Wikidata
Aber Môr Iwerddon Edit this on Wikidata
Llynnoedd Llyn Alaw Edit this on Wikidata
Erthygl am yr afon yw hon. Am y llong o'r un enw, gweler Afon Alaw (llong).
Afon Alaw yn cyrraedd y môr ger Llanfachraeth
Afon Alaw ger Pont y Crawiau

Mae Afon Alaw yn un o'r afonydd mwyaf ar Ynys Môn. Fe'i lleolir yng ngogledd yr ynys. Ei hyd yw tua 10 milltir (yn cynnwys ei chwrs trwy Llyn Alaw). Cafodd yr enw 'Afon Alaw' am fod yr alaw (lili'r dŵr) yn tyfu yno.[1]

Llwybr yr afon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r afon yn tarddu gerllaw Llanerchymedd yng nghanol yr ynys ac yn llifo i mewn i Lyn Alaw, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Mae nifer o nentydd eraill hefyd yn llifo i mewn i'r llyn.

Ar ôl gadael y llyn mae'r afon yn llifo heibio Llanbabo a Llanfachreth, ac mae afon arall, a elwir Afon Alaw Fach, yn ymuno â hi. Mae'n cyrraedd y môr ym Mhenrhos, i'r dwyrain o Gaergybi.

Traddodiadau a hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sôn am Afon Alaw yn Brawnwen ferch Llŷr, ail gainc y Mabinogi, lle'r adroddir yr hanes am Branwen yn marw o dorcalon am fod cymaint o ryfelwyr dewr o Ynys y Cedyrn (Ynys Prydain) ac Iwerddon wedi marw o'i hachos hi, a'i chladdu wedyn mewn bedd ar lan Afon Alaw:

Ac yna y llas y benn ef (Bendigeidfran), ac y kychwynassant a'r pen gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Talebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. "Oy a uab Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da [o] dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i." A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.[2]

Mae claddfa ar lan yr afon gerllaw Llanbabo yn dwyn yr enw Bedd Branwen - credir ei bod yn dyddio o Oes yr Efydd.

Enwyd y llong hwylio Afon Alaw, chwaer-long yr Afon Cefni, ar ôl yr afon.

Cyfeiriodd y dyddiadurwr o Dronwy, Môn, Robert Bulkeley fel hyn ar 25 Mehefin 1631: Vespi I was at Glaslyn There was tymber newly come from Ireland. Raynie mor[ning].[3] Yn aber yr afon yr oedd “Glaslyn”[4]. Mae’r cyfeiriad yn awgrymu diwydiant allforio coed o egin stadau Ylster yn dilyn polisiau Prydain i “blannu” neu wladychu Iwerddon o Brydain[angen ffynhonnell][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. Ifor Williams (gol.). Pedeir Keinc y Mabinogi (Gwasg Prifysgol Cymru).
  3. Trans. Anglesey Antiquarian Society, 1937
  4. Bwletin Llên Natur rhifyn 60[1]
  5. MONEA CASTLE and DERRYGONNELLY CHURCH (Ulster-Scots translation) Archifwyd 30 August 2011 yn y Peiriant Wayback. NI DoE.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: