Afon Alaw (llong)

Oddi ar Wicipedia
Afon Alaw
Enghraifft o'r canlynolBarc Edit this on Wikidata
PerchennogQ20872053 Edit this on Wikidata
Map
GwneuthurwrAlexander Stephen and Sons Edit this on Wikidata


Llong "Afon Alaw"; ffotograff: State Library of Queensland.

Roedd yr Afon Alaw yn llong hwylio pedwar hwylbren a wasanaethodd o 1891 hyd 1918. Ei chwaer-long oedd yr Afon Cefni.

Adeiladwyd yr Afon Alaw gan gwmni A. Stephens & Sons o Glasgow ar gyfer Hughes & Co o Borthaethwy, Ynys Môn.

Fe'i henwyd ar ôl yr afon o'r un enw yng ngogledd-orllewin Môn. Roedd hi'n farc 2,052 tunnell gros, hyd 284 troedfedd, lled 42 troedfedd.

Yn 1904 fe'i gwerthwyd i gwmni Cymreig arall, o Lerpwl, W. Thomas & Sons. Cafodd ei gwerthu eto ddiwedd y 1910au i Christiansand o Norwy. Yn 1918 suddwyd yr Afon Alaw ym Môr Iwerydd y De gan y llong ryfel Almaenaidd Wulf tra ar ei ffordd i Montevideo, yn Wrwgwái.