Bwrdd Arthur
![]() | |
Math |
bryngaer, caer lefal, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
17.65 ha ![]() |
Cyfesurynnau |
53.3108°N 4.1229°W, 53.3109°N 4.124316°W ![]() |
Cod OS |
SH5863581455, SH58638146 ![]() |
Cyfnod daearegol |
Oes yr Haearn, Britannia ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
heneb gofrestredig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw |
AN024 ![]() |
- Erthygl am y fryngaer yn Ynys Môn yw hon; ceir hefyd gromlech yn Sir Gaerfyrddin o'r enw Bwrdd Arthur
Bryn a bryngaer yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Bwrdd Arthur, hefyd Din Silwy. Mae ei bwynt uchaf 164 m uwch lefel y môr. Saif ger yr arfordir, i'r gogledd o bentref Llanddona. Cedwir yr enw hynafol Din Silwy yn enw plwyf canoloesol Llanfihangel Dinsilwy. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 29 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf, cyfeirnod OS: SH5863581455.
Mae'n un o sawl lle yng Nghymru a Phrydain a gysylltir ag enw y Brenin Arthur, ond does dim cysylltiad uniongyrchol, nac yn hanesyddol nac yn chwedlonol, hyd y gwyddys. Uchder y copa o lefel y môr ydy 164m (538tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 8 Mehefin 2009.
Y fryngaer[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladwyd mur o feini calchfaen yn ystod Oes yr Haearn i greu'r fryngaer, gydag arwynebedd o tua 6.8ha tu mewn i'r mur. Mae tystiolaeth iddi gael ei defnyddio yng nghyfnod y Rhufeiniaid hefyd, gan i gasgliad o arian gael ei ddarganfod yma, yn cynnwys darnau wedi eu bathu yn ystod teyrnasiad Nero, Vespasian a Cystennin Fawr. Ceir olion nifer o dai crwn ac un hirsgwar. Mae'r safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig fel enghraifft o laswelltir ar dir calchog. Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN024.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Cylchoedd cerrig
- Rhestr copaon Cymru
- Llwythau Celtaidd Cymru
Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Clwb Mynydda Cymru
- Llun o'r fryngaer o Casglu'r Tlysau
- Lleoliad ar wefan Streetmap
- Lleoliad ar wefan Get-a-map