Cwm-wysg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cwmwysg
Math anheddiad dynol, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.9°N 3.7°W Edit this on Wikidata

Cymuned amaethyddol ym mhlwyf Traean-glas i'r gorllewin o bentref Trecastell, Sir Frycheiniog, yw Cwm-wysg neu Cwm Wysg.

Symudodd nifer o deuluoedd Mynydd Epynt i Gwm-wysg ar ôl i'r Weinyddiaeth Ryfel eu gorfodi i adael eu cartrefi ond dioddefodd ddiboglogi yn y 1950au pan grëwyd Cronfa Ddŵr Wysg a phlannu coed conwydd estron dros rannau helaeth o flaenau'r cwm.

Ymhlith enwogion y fro mae'r arlunydd Aneurin Jones, sy'n enwog am ei luniau o geffylau a golygfeydd cefn gwlad megis arwerthiannau a threialon cŵn defaid.

Diwellir anghenion crefyddol y gymuned gan gapel Saron (Annibynnwyr) a godwyd yn wreiddiol ym 1822 ac a ailadeiladwyd ym 1856[1], a chan gapel Tŷ Newydd[2] ym mhentre Trecastell

  1. "Saron Welsh Independent Chapel, Cwm-Wysg". Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
  2. "Ty Newydd Calvinsitic Methodist Chapel". Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.