Yr Ystog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Churchstoke)
Yr Ystog
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,691 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,430.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.54°N 3.08°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000263 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Yr Ystog[1] (Saesneg: Churchstoke[2] neu Church Stoke). Saif y pentref i'r de-ddwyrain o dref Trefaldwyn, yn agos at y ffin a Lloegr, ger cyffordd y priffyrdd A489 ac A490. Mae Afon Camlad yn llifo heibio iddo. Ceir archfarchnad fawr Harry Tuffins yn y pentref, ynghyd ag ysgol gynradd a dwy dafarn.

Golygfa ar ran o'r Ystog

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Cymuned[golygu | golygu cod]

Heblaw pentref Yr Ystog, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Hyssington a Snead; mae rhan fechan o'r gymuned ar wahan i'r gweddill, i'r de o Drefaldwyn. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,571.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dyddia corff Eglwys Sant Niclas o 1815, ond mae'r tŵr o'r 13g. Gerllaw mae gweddillion castell mwnt a beili a adawenir fel Castell yr Esgob.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Yr Ystog (pob oed) (1,691)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Yr Ystog) (70)
  
4.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Yr Ystog) (412)
  
24.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Yr Ystog) (227)
  
32.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Hydref 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]