Neidio i'r cynnwys

Afon Camlad

Oddi ar Wicipedia
Afon Camlad
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.578°N 3.076°W Edit this on Wikidata
AberAfon Hafren Edit this on Wikidata
Map

Afon ym Mhowys, Cymru, ac yn Swydd Amwythig, Lloegr, yw Afon Camlad. Ffurfia ran o'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr, cyn llifo i Afon Hafren.

Mae'r afon yn tarddu yn agos i'r ffîn, yn yr ardal i'r dwyrain o'r Y Drenewydd ac i'r de o bentref Snead. Llifa tua'r gorllewin, gan ffurfio rhan o'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr i'r gorllewin o Snead, cyn llifo i'r gogledd-orllewin i mewn i Gymru a thrwy Yr Ystog. Oddi yno, mae'n llifo tua'r gogledd, gan groesi'r ffîn i Loegr, gan lifo ychydig i'r dwyrain o Llanffynhonwen cyn troi tua'r gorllewin eto, a ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr i'r gogledd o Chirbury ac i'r de o Ffordun. Mae'n troi tua'r gogledd-orllewin i mewn i Gymru i ymuno ag Afon Hafren i'r gorllewin o Ffordun.

Afon Camlad yn llifo trwy'r Ystog

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.