Twyn-y-Gaer, Llandyfalle
| Math | caer lefal |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Honddu Isaf |
| Sir | Powys |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.0077°N 3.3788°W |
| Cod OS | SO05443526 |
| Hyd | 75 metr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | BR034 |
Mae Twyn-y-Gaer (hefyd Twyn y Gaer Llanfihangel Fechan[1]) yn fryngaer Geltaidd siâp hirgrwn sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli i'r gorllewin o Landyfalle, tua dwy filltir i'r Gogledd o Aberhonddu, Powys, Cymru; cyfeirnod OS: SO05443526. Mae'n 70 metr o ddiametr o'r Gorllewin i'r Dwyrain, ac yn 75m o'r Gogledd i'r De, gyda chlawdd a ffos o'i chwmpas.[2]
Mae yma olion sarnfa ac mae'r mynediad i'r gaer i'r dwyrain, gyda bwlch modern yn y gorllewin. Ceir tystiolaeth o ragfur carreg ar yr ochr De-Orllewin.
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol pwrpas caerau o'r Oes Haearn, ac fe'u codwyd cyn y goresgyniad Rhufeinig; cafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yn y Gogledd. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hogg, A H A , 1982
- ↑ archwilio.org.uk; adalwyd 3 Ebrill 2024.
