Hirgrwn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ofal)
Hirgrwn, gydag un llinell cymesuredd

Mae hirgrwn yn gromlin caeedig mewn plân geometraidd sydd yn edrych yn debyg i amlinelliad o wy neu elíps. Defnyddir y term o fewn meysydd megis geometreg tafluniol, lluniadau technegol, ac ati. Gelwir y fersiwn tri dimensiwn yn ofoid.

Nid yw'r term 'hirgrwn', pan gaiff ei ddefnyddio i ddisgrifio cromlin, mewn geometreg, wedi'i diffinio'n dda, ac eithrio yng nghyd-destun geometreg. Dyma rai o'r nodweddion sy'n gyffredin i siapau hirgrwn:

  • mae'r ymyl yn llyfn
  • mae'r siâp yn eithaf tebyg i'r elíps
  • mae ganddynt, fel arfer, linell cymesuredd, er nad yw hyn yn angenrheidiol
  • hirgrwn Cassini
  • rhannau o gromlin eliptig
  • wy Moss
  • uwch-elíps
  • hirgrwn Cartesaidd
  • stadiwm (term mewn geometreg)

Term[golygu | golygu cod]

Mae'r term 'hirsgwar' wedi diflannu o'r Gymraeg ers yr 1980au, gan i fathemategwyr nodi nad yw'r siâp yn sgwâr, a defnyddir y term 'petryal' heddiw. Yn yr un modd, gellir dadlau nad oes y fath beth a chylch ymestynedig, gan ei fod, wrth ei ymestyn, yn peidio a bod yn gylch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]