Sant Harmon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Saint Harmon
Sun Inn, St Harmon - geograph.org.uk - 158954.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Ynganiad LL-Q9309 (cym)-Jason.nlw-Saint Harmon.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.344°N 3.486°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000342 Edit this on Wikidata

Pentref bychan gwledig a phlwyf eglwysig yng ngogledd Powys yw Sant Harmon (Saesneg St Harmon). Fe'i lleolir 2 filltir i'r gogledd o bentref Rhaeadr Gwy ar lôn fynydd rhwng y pentref hwnnw a Llanidloes. Saif ar lan Afon Marteg, ffrwd sy'n aberu yn Afon Gwy ger Rhaeadr. Enwir y pentref ar ôl Sant Garmon ('Harmon'). Saif y pentref mewn ardal o fryniau isel, gyda Moel Hywel (505m) yn codi i'r dwyrain.

Gwesty yn Sant Harmon.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Tan ddiwedd yr 16g, roedd bagl neu groes Sant Curig i'w gweld yn eglwys y plwyf (sy'n 6 milltir o glas y sant hwnnw yn Llangurig dros y bryniau). Ceir disgrifiad o'r groes gan Gerallt Gymro yn ei Hanes y Daith Trwy Gymru (1188): 'yn eglwys Sant Garmon ceir y fagl a enwir Bagl Sant Curig, yr hon a ymestyn ychydig yn ei brig, ar y naill achr a'r llall, ar wedd croes, ac a orchuddir amgylch ogylch ag aur ac arian.' Arferid gwella cleifion â hi.[1]

Bu Gwenllian ferch Owain Glyndŵr a'i gŵr Phylib ap Rhys yn byw ym mhlas Cenarth yn y plwyf yn hanner cyntaf y 15g.

Pobl o Sant Harmon[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Thomas Jones (cyf.), Hanes y Daith Trwy Gymru, yn y gyfrol Gerallt Gymro (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938)