Neidio i'r cynnwys

Pontllogel

Oddi ar Wicipedia
Pont Llogel
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.729325°N 3.43277°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ035155 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Powys, Cymru, yw Pontllogel[1] neu Pont Llogel.[2] Saif yn ardal Maldwyn ar lannau Afon Efyrnwy tua hanner ffordd rhwng Llanwddyn ac Abertridwr i'r gogledd a phentref Dolanog i'r de-ddwyrain. Mae'r lôn B4395 yn rhedeg trwy'r pentref ac yn ei gysylltu â phentref Llanfihangel-yng-Ngwynfa i'r gogledd a Llangadfan i'r de.

Tua milltir i'r gogledd-orllewin ceir cyfres o hen garneddi a elwir yn "Feddau'r Cewri".

Rhed Llwybr Glyndŵr heibio i'r pentref.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. ↑ British Place Names; adalwyd 7 Ionawr 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.