Partrishow

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°53′43″N 3°02′56″W / 51.895303°N 3.048936°W / 51.895303; -3.048936

Partrishow
Partrishow Church.jpg
Partrishow is located in Powys
Partrishow

 Partrishow yn: Powys
Cyfeirnod grid yr AO SO22SE54
    - Caerdydd 29.2 mi (47.0 km)  
    - Llundain 127.9 mi (205.8 km)  
Cymuned Cwm Grwyne
Sir Powys
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Y Fenni
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Brycheiniog a Sir Faesyfed
Cynulliad Cymru Brycheiniog a Sir Faesyfed
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Powys

Pentrefan yng nghymuned Cwm Grwyne, Powys, Cymru yw Partrishow neu Lanisw, sydd 29.2 milltir (46.9 km) o Gaerdydd. Yn 1555 y ffurf oedd Llanysho (LBS III.321) a defnyddid y ffurf Merthyr Isw (neu 'Issiu ') hefyd yn Llyfr Llandaf (BLD 279).[1] Arferaid fod yn yr hen Sir Frycheiniog, ond bellach mae ym Mhowys bron ar y ffin gyda Sir Fynwy.

Eglwys Sant Isw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynnon Sant Isw

Mae'r eglwys leol a gysegrwyd i Sant Isw yn Radd I, ers 19 Gorffennaf 1963, ac o bwysigrwydd hanesyddol arbennig gan ei bod yn dyddio i'r 11g a bod ynddi nifer o nodweddion hynafol. Ceir yma groglen cerfiedig, cywrain o'r 16g, paentiad o ysgerbwd o'r Oesoedd Canol a bedyddfaen sydd yn un o'r hynaf yng Nghymru gyda'r dyddiad 1055 wedi'i cherfio ynddi. Ym mynwent yr eglwys saif croes uchel sydd wedi'i chofretru'n II* ac a wnaed c.1300. Ar yr ochr orllewinol ceir capel a elwir yn 'Eglwys y Bedd'.

Defnyddir yr enw 'St Patrico', bellach gan aelodau'r eglwys. Am ryw reswm ni chafodd yr eglwys ei hailwampio gan bensaeri Oes Victoria, hyd at 1908 pan drodd W. D. Caröe ei law tyner ati.

Ceir yma hefyd ffynnon arbennig,

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. llyfrgell.cymru; A Welsh Classical Dictionary gol. P.C. Bartrum.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]