O Fôn i Fynwy (llyfr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clawr O Fôn i Fynwy.jpg
Clawr argraffiad 1973
Data cyffredinol
Awdur John Davies
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Argaeledd allan o brint
Genre Blodeugerdd
Dynodwyr

Mae O Fôn i Fynwy, gan John Davies yn ddetholiad o ryddiaith a barddoniaeth. Fe'i hargraffwyd am y tro cyntaf ym 1962 gan Wasg Prifysgol Cymru gydag adargraffiadau ym 1972, 1973 a 1975. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Sail y casgliad yw ymgais buddugol mewn cystadleuaeth am ddetholiad yn disgrifio bröydd Cymru a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1960

Yn ôl rhagair yr awdur: [2]

Amcanwyd at ddau beth yn arbennig wrth lunio’r detholiad. Yn gyntaf, trafod Cymru gyfan, gan geisio cael gymaint ag sydd yn bosibl o gydbwysedd rhwng gwahanol ardaloedd; ac yn ail, ceisio cynnwys cynifer ag a ellid o ddetholion o weithiau ein prif awduron diweddar Hyderir, felly, fod y casgliad nid yn unig yn cyfleu nodweddion gwahanol ardaloedd a chyfraniad eu pobl a’u henwogion i batrwm y bywyd cenedlaethol, ond ei fod hefyd yn dwyn sylw at beth o gynnyrch llenyddol y cyfnod diweddar, a’r detholion eu hunain yn enghreifftiau da o’r gelfyddyd ysgrifennu.

Yn y chwedegau a'r saithdegau cynnar roedd y llyfr yn boblogaidd fel llyfr gosod yn yr ysgolion, ond gyda newidiadau yn ffiniau llywodraeth leol ym 1974, a oedd yn cael gwared â Sir Fôn a Sir Fynwy, [3] roedd fformat y llyfr wedi dyddio.

Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r llyfr yn cynnwys 13 o adrannau Mae'r adran gyntaf yn cynnwys cerddi ac ysgrifau am Gymru'n gyffredinol. Mae 11 o adrannau sy'n cynnwys deunydd llenyddol perthnasol i'r 13 hen sir Gymreig gyda "Dinbych a Fflint" a "Brycheiniog a Maesyfed" yn rhannu adrannau. Mae'r adran olaf yn cynnwys detholion sy'n ymdrin â hyder y genedl.

Cerddi ac ysgrifau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gyfrol yn gynnwys y cerddi ac ysgrifau canlynol:

Siroedd Cymru cyn 1974
(1) Sir Fynwy
(2) Sir Forgannwg
(3) Sir Gaerfyrddin
(4) Sir Benfro
(5) Sir Aberteifi
(6) Sir Frycheiniog
(7) Sir Faesyfed
(8) Sir Drefaldwyn
(9) Sir Ddinbych
(10) Sir y Fflint
(11) Sir Feirionnydd
(12) Sir Gaernarfon
(13) Sir Fôn

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Sir Fôn[golygu | golygu cod y dudalen]

Sir Gaernarfon[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinbych a Fflint[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sir Ddinbych - T. I. Ellis (ysgrif a cherdd)
  • O Ben Yr Allt - T. Glynne Davies (cerdd)
  • Bro Hiraethog - A. Gwynn Jones (cerdd)
  • Llansannan - Abel Ffowcs Williams (cerdd)
  • Rhyd-yr-Arian - Abel Ffowcs Williams (ysgrif)
  • Nantglyn - G Roberts (cerdd)
  • Dyffryn Clwyd - H. Francis Jones (ysgrif)
  • Twm o’r Nant yn Sir Gaerfyrddin yn hiraethu am Ddyffryn Clwyd - Richard Hughes (cerdd)
  • Yr Hen Fro - E. Tegla Davies (ysgrif)
  • Castell Dinas Brân - Dewi Emrys (cerdd)
  • Castell Dinas Brân - Taliesin o Eifion (englyn)
  • Y Fynachlog - G. J. Roberts (cerdd)
  • Dyffryn Maelor a Rhosllannerchrugog - J T Jones (ysgrif)
  • Yr Hen Lofa - I. D. Hooson (cerdd)
  • Ar Forfa Rhuddlan – Sarnicol (cerdd)
  • Tuag Adref - Emlyn Williams (ysgrif)

Sir Feirionnydd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gyrru'r Gwcw Dros Feirionnydd - Abel Ffowcs Williams (cerdd)
  • Meirionnydd - Ioan Machreth (englyn)
  • Molawd Ardudwy - H. J. Hughes (cerdd)
  • Bro Elis Wyn - O. M. Edwards (ysgrif)
  • Morgan Llwyd ac Ardudwy - E. Morgan Humphreys
  • Wrth Fedd Siôn Phylip - Geraint Bowen (englynion)
  • Cywydd i'r Wylan a Dŵr y Bermo - Siôn Phylip (cerdd)
  • Salem - E. Morgan Humphreys (ysgrif)
  • Atgo’ - Hedd Wyn (cerdd)
  • Y Moelwyn - Hedd Wyn (englyn)
  • Haul ar Fynydd - Hedd Wyn (englyn)
  • Gerddi Bluog R. H. Gruffydd (englyn)
  • Hen Bennill – anhysbys (cerdd)
  • Y Cnicht - William Jones (cerdd)
  • Y Praw - William Jones (cerdd)
  • Ymweliad Thomas Bartley â'r Bala - Daniel Owen (ysgrif o Rhys Lewis)
  • Owen Coed-y-Pry a Chae Rhys - W. J. Gruffydd (ysgrif)
  • Dyffryn Edeirnion - F. Wynn Jones (ysgrif)
  • Canol Nos ar Fwlch-y-Groes - Ifan Ab Owen Edwards (ysgrif)
  • Hen Benillion – anhysbys (cerddi)

Sir Drefaldwyn[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hiraeth am Faldwyn - Gwilym R. Tilsley (cerdd)
  • Bro Ddyfi - Iorwerth C. Peate (cerdd)
  • Nant yr Eira - Iorwerth C. Peate (cerdd)
  • Tro i Faesglasau - John Breese Davies
  • Yr Argae - John Evans (cerdd)
  • Ym Maldwyn - E. Tegla Davies (ysgrif)
  • Godre Berwyn - E. Tegla Davies (ysgrif)

Sir Aberteifi[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cantre'r Gwaelod - R. Williams Parry (cerdd)
  • Y Bae - Alun Jones (cerdd)
  • Sir Aberteifi - Evan Jenkins (englyn)
  • Unwaith Eto - E. Gwyndaf Evans (cerdd)
  • Pentrefi - R. Gerallt Jones (cerdd)
  • Y Mynydd Bach - . T. I. Ellis (ysgrif)
  • Gartref ar Wyliau - W. Ambrose Bebb (ysgrif)
  • Hon yw'r Gors - W. J. Gruffydd (Elerydd) (cerdd)
  • Plannu Perthi - Kitchener Davies (cerdd)
  • Rhamant Soar y Mynydd - J. Melville Jones (ysgrif)
  • Rhai Arwyddion Tywydd - J. M. Edwards (ysgrif)
  • Tachwedd - Isfoel (cerdd)
  • Tresaith - Leslie Harries (cerdd)
  • Y Môr - David Phillips (englyn)
  • Rhos Helyg - B. T. Hopkins (cerdd)
  • Cwymp Ffynnon-Bedr - David Davis (cerdd)
  • Ystrad Fflur - Evan Jenkins (cerdd)

Sir Benfro[golygu | golygu cod y dudalen]

Brycheiniog a Maesyfed[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sir Frycheiniog - T. I. Ellis (ysgrif)
  • Golygfa yn Sir Frycheiniog - J. Seymour Rees (ysgrif)
  • Talgarth - Gwilym R. Tilsley (cerdd)
  • Murmur Dyfroedd - O. M. Edwards (ysgrif)
  • Cefn Brith - O. M. Edwards (ysgrif)
  • Llyn Clwm Llwch - J. Seymour Rees (ysgrif)
  • Diserth - O. M. Edwards (ysgrif)
  • Cwm Elan - Isgarn (cerdd)

Sir Gaerfyrddin[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sir Gaerfyrddin - D. Gwenallt Jones (cerdd)
  • Baled Afon Tywi - W. Leslie Richards (cerdd)
  • Golud Gwlad Myrddin - T. Gwynn Jones (ysgrif)
  • Dyffryn Tywi - J. Eirian Davies (cerdd)
  • Pen Turcan - Gwydderig (cerdd)
  • Chwedl a Thraddodiad - Dyfnallt Owen (ysgrif)
  • Brogarwch - D. J. Williams (ysgrif)
  • Dwy Daith - W. Llewelyn Williams (ysgrif)
  • Pantycelyn - Aneirin Talfan Davies (ysgrif)

Sir Forgannwg[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sir Forgannwg – D. Gwenallt Jones (cerdd)
  • Morgannwg – T. Llew Jones (cerdd)
  • Craig Cefn Parc – Crwys (ysgrif)
  • Y Ferch o’r Sgêr - R. T. Jenkins (ysgrif)
  • Bro Morgannwg - G. J. Williams (ysgrif)
  • Yr Haf yn dod i Forgannwg - Iolo Morganwg
  • Cadair Tregaron - J. J. Williams (ysgrif)
  • Pentref Gwaith - T. Rowland Hughes (ysgrif)
  • Cap Wil Tomos - Islwyn Williams (ysgrif)
  • Portread o Löwr - Bobi Jones (cerdd)
  • Cefn Mabli - W. J. Gruffydd (cerdd)

Sir Fynwy[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sir Fynwy - T. I. Ellis (ysgrif)
  • Gwent – Crwys (cerdd)
  • Croeso i Lyn Ebwy - J. Dewi Samuel (ysgrif)
  • Llanfaches - T. I. Ellis (ysgrif)
  • Llys Ifor Hael - Ieuan Brydydd Hir (cerdd)
  • Abaty Tintern – Alun (cerdd)

Hyder[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Lavernock - Saunders Lewis (cerdd)
  • Mae'r Oll yn Gysegredig - E. Llwyd Williams (ysgrif)
  • Proffwydoliaeth - Gerallt Gymro (ysgrif)
  • Y Gweddill – J. M. Edwards (cerdd)
  • Pentrefi Cymru - J. M. Edwards (cerdd)
  • Cwm yr Eglwys - D. Gwenallt Jones (cerdd)
  • Caniad Ehedydd - Waldo Williams (cerdd)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Formats and Editions of O fôn i fynwy : detholiad o ryddiaith a barddoniaeth [WorldCat.org]". www.worldcat.org. Cyrchwyd 2020-02-06.
  2. Davies, John (John Owen), 1922- (1975). O fôn i fynwy : detholiad o ryddiaith a barddoniaeth. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0236-X. OCLC 9117641.CS1 maint: Multiple names: authors list (link)
  3. ""Thirteen Welsh counties cut down to five"". The Times. 12 Gorffennaf 1967.