Thomas Jones (Taliesin o Eifion)
| Thomas Jones | |
|---|---|
| Ffugenw | Taliesin o Eifion |
| Ganwyd | 13 Medi 1820 Llanystumdwy |
| Bu farw | 1 Mehefin 1876 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd |
Bardd o Gymru oedd Thomas Jones (13 Medi 1820 – 1 Mehefin 1876).
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Llanystumdwy ond yn 1826 ymsefydlodd ei rieni, a roddodd addysg dda i'w mab, yn Llangollen. Gweithiodd Taliesin fel plymiwr ac addurnwr, gan baentio arwyddion llawer o dafarnau. Meistrolodd y gynghanedd yn ei ieuenctid cynnar, a'i gerddi caeth yw ei waith mwyaf adnabyddus. Daeth yn ffigwr eisteddfodol blaenllaw ac mae 'Brwydr Crogen' yn enghraifft gynnar iawn o ddrama fydryddol yng Nghymru.
Anfonodd awdl i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1876, ar y 31ain Mai ond bu farw y diwrnod wedyn ar y 1af o Fehefin yn 56 mlwydd oed. Yn ôl y chwedl, gyda'i anadl olaf fe ofynnodd a oedd yr awdl wedi cyrraedd yn ddiogel.
Cafodd y gadair a ddyfarnwyd iddo ei orchuddio â brethyn du ar lwyfan yr ŵyl — dyna pam fod sôn amdano fel 'Bardd y Gadair Ddu'.[1][2]
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- J. Jones (‘Myrddin Fardd’), Enwogion Sir Gaernarfon (1922), 214-7.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cadair Ddu Eisteddfod Wrecsam 1876" (yn Saesneg). 2011-07-30. Cyrchwyd 2025-08-04.
- ↑ "JONES, THOMAS ('Taliesin o Eifion'; 1820 - 1876), bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-29.