Gwilym Tilsley

Oddi ar Wicipedia
Gwilym Tilsley
Ganwyd1911 Edit this on Wikidata
Llanidloes Edit this on Wikidata
Bu farw1997 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Bardd oedd Gwilym Richard Tilsley (enw barddol: Tilsli; 26 Mai 191130 Awst 1997). Fe'i ganed yn Nhŷ-llwyd, ger Llanidloes, Powys. Roedd yn archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru o 1969 i 1972.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bu'n ddisgybl yn ysgol gynradd Manledd ac ysgol uwchradd sir Llanidloes. Yna ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth a Wesley House, Caergrawnt.

Priododd ag Anne Eluned Jones (1908–2003) ym 1945. Ganwyd mab iddynt, Gareth Maldwyn Tilsley, ym 1946.

Gweinidog[golygu | golygu cod]

Fel gweinidog Methodist, gwasanaethodd yng Nghomins Coch ger Machynlleth (1939 i 1942), Pontrhydygroes yng Ngheredigion (1942 i 1945), Aberdâr (1945 i 1950), Bae Colwyn (1950 i 1955), Llanrwst (1955 i 1960), Caernarfon (1960 i 1965), y Rhyl (1965 i 1970) a Wrecsam (1970 i 1975) cyn ymddeol i Brestatyn.

Bardd[golygu | golygu cod]

Nodweddir gwaith barddonol Tilsli gan serch a chydymdeimlad diffuant â gweithwyr diwydiannol Cymru, ffrwyth ei gyfnodau fel gweinidog ym maes glo De Cymru ac ardaloedd llechi'r gogledd. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili, 1950 gyda'r awdl rymus 'Moliant i'r Glöwr'. Enillodd y Gadair am yr ail waith yn 1957 gyda'r awdl 'Cwm Carnedd', seiliedig ar fywyd chwarelwyr Gogledd Cymru.

Ysgrifennodd nifer o eiriau emynau Cymraeg, yn cynnwys "Am ffydd, nefol dad, y deisyfwn".[1]

Cyhoeddwyd ei gerddi yn y gyfrol Y Glöwr a cherddi eraill (1958).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]