R. Silyn Roberts
| R. Silyn Roberts | |
|---|---|
| Ffugenw | Silyn Roberts |
| Ganwyd | 28 Mawrth 1871 Llanllyfni |
| Bu farw | 13 Awst 1930 Bangor |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd |
| Priod | Mary Silyn Roberts |
| Perthnasau | Mathonwy Hughes |
| llofnod | |
Bardd, sosialydd, nofelydd, gweinidog a diwygiwr cymdeithasol o Gymru oedd Robert "Silyn" Roberts (28 Mawrth 1871 – 15 Awst 1930),[1] a aned ger Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon.[1] Daeth i'r amlwg yn gyntaf fel bardd[2] ac mae'n debyg mai drwy ei weithiau llenyddol yr adnabyddir ef orau heddiw; fodd bynnag yn ystod ei oes gwnaeth gyfraniad sylweddol fel addysgwr, diwygiwr cymdeithasol a gweinyddwr cyhoeddus.[1][2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd ef yn Nyffryn Nantlle 28 Mawrth 1871; mae ei gartref gwreiddiol, Brynllydiart yng Nghwm Silyn, bellach yn adfail.[3] Ei rieni oedd Robert John Roberts ac Ellen Williams, trydydd gwraig John; roedd gan Silyn chwaer fach, Elen (Nel), a ddaeth yn ddiweddarach yn fam i'r prifardd Mathonwy Hughes, a phedwar o hanner-brodyr a chwiorydd oedd yn blant i wraig gyntaf John Roberts.[4] Roedd ei rieni, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, yn ddylanwad pwysig arno am iddynt ddysgu hanes a llenyddiaeth Cymru iddo, pethau na ddysgodd dim o gwbl amdanynt (nac am y Gymraeg o gwbl) yn ei ysgol, Ysgol Ramadeg Clynnog.[5] Cofiai i'w fam gyflwyno gwaith Ceiriog a Talhaiarn iddo.
Gadawodd yr ysgol yn 14 oed am y chwarel, gyda'i fryd ar ddod yn beirianydd.[5] Parhaodd ei ddiddordebau llenyddol i ddatblygu yno dan ddylanwad ei gyd-chwarelwyr, a ddysgodd iddo am Goronwy Owen a Dafydd ap Gwilym; darllennodd yn helaeth yn Saensneg hefyd dan ddylanwad ei weinidog, gyda Walter Scott, Shakespeare, William Makepeace Thackeray, Charles Dickens ac Alexandre Dumas (mewn cyfieithiadau Saesneg) ymhlith ei ddeunydd darllen.[6] Dychwelodd i'r Ysgol Ramadeg yn 1890, ac ennill ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (lle astudiodd lenyddiaeth Saesneg ond hefyd y Gymraeg gyda John Morris-Jones) ac oddi yno i astudio ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Y Bala. Tra'n fyfyriwr ym Mangor dechreuodd farddoni, ac yno hefyd cyfarfu â gwr fyddai'n dod yn un o'i gyfeillion pennaf, W. J. Grufyfdd. Ffrwyth eu cyfeillgarwch oedd y gyfrol Telynegion. Casgliad o gerddi serch oedd hon, a gafodd dderbyniad "brwd ond cyfyng"[7] ar y pryd, ond priodolwyd iddi arwyddocad sylweddol yn ddiweddarach fel arwydd bod oes newydd yn dechrau mewn barddoniaeth Gymraeg.[1][8][9] Roedd yn bregethwr addawol a phoblogaidd, ac ymwelodd â'r U.D.A. a Chanada am y tro cyntaf yn 1903 i bregethu i Gymry'r gwledydd hynny.[10]
Ar ôl cwblhau ei astudiaethau daeth Silyn yn weinidog ar gapel Cymraeg yn Llundain. Ei gyfnod yn Llundain oedd anterth ei yrfa barddonol, a goronwyd (yn llythrennol) gan fuddugoliaeth ei Bryddest ar y testun "Trystan ac Esyllt" yn Eisteddfod Genedlaethol 1902. Dewisodd y beirniaid gerdd Silyn dros ymdrech cyd-awdur y Telynegion sef W. J. Gruffydd. Cyhoeddwyd y bryddest fuddugol yn 1904 yn y gyfrol Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gyda rhagor o'i gerddi, rhai ohonynt wedi ymddangos eisoes yn Telynegion.
Yn Llundain cyfarfu â Mary Parry, a dychwelodd y ddau i Gymru gan briodi yn 1905 a threulio'r cyfnod hyd 1912 yn weinidog yn Nhan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog. Byddai Mary yn rhan bwysig o fywyd proffesiynol Silyn hefyd, gan arwain gyrfa yr un os nad mwy llewyrchus ag yntau ym maes addysg. Yn ystod y cyfnod hwn roedd Silyn yn ysgrifennu'n rheolaidd i'r Glorian (lle ymddangosodd ei dair nofel). Ysgrifennodd lawer o ddeunydd gwleidyddol hefyd: credai'n gryf mewn sosialaeth - roedd wedi bod yn galw'i hun yn sosialydd ers 1896 - ac roedd yn aelod o Gymdeithas y Ffabiaid.[10] Etholwyd ef yn gynghorydd Sir ar ran Y Blaid Lafur Annibynnol yn 1908. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd y pamffled Y Blaid Lafur Anibynnol: ei hanes a'i hamcan, ac erbyn ail hanner yr 1900au roedd galw mawr arno fel darlithydd cyhoeddus ar draws Cymru.[1][10] Rhoddwyd pwysau arno i sefyll fel aelod seneddol, ond gwrthododd.[10]
Er ei fod yn hapus yn Nhanygrisiau, poenai na allai'r gymuned fforddio ei gyflog fel Gweinidog a dechreuodd chwilio am swyddi eraill. Talodd David Davies iddo ymweld â Gogledd America eto yn 1912 i godi arian at gronfa i ymladd TB.[11] Addysg, fodd bynnag, ac addysg oedolion yn benodol oedd y pwnc agosaf at ei galon, ffaith oedd eisoes yn glir erbyn canol yr 1900au pan deithiodd i Ddenmarc gyda'i wraig i astudio addysg oedolion yn y wlad honno.[10] Roedd arwyddion ei fod yn colli ei frwdfrydedd at wleidyddiaeth bleidiol, a phan ddychwelodd o America penodwyd ef i swydd ym Mhrifysgol Cymru yn ysgrifennydd ar fwrdd penodiadau i gynorthwyo graddedigion i gael gwaith.[11] Symudodd i fyw i'r Barri, a bu'n gyfrifol am ddenu R. Williams Parry i swydd addysgu yn y dref honno. Roedd y ddau'n rhan o griw o Gymru diwylliedig yn yr ardal fu'n gyfrifol am sefydlu'r Welsh Outlook yn 1914; ymddangosodd nifer o gerddi Silyn yn y cylchgrawn, y mwyafrif dan y ffugenw "Rhosyr".[11]
Er ei fod wedi gwrthwynebu'r Rhyfel Byd Cyntaf yn daer, nid oedd Silyn yn wrthodwr cydwybodol a gwirfoddolodd i ymuno â'r ymladd; gwrthodwyd ei gais fodd bynnag oherwydd ei oed (roedd yn 43) a'i iechyd.[11] Cafodd swydd weinyddol a gweithiodd i sicrhau penodi Cymry yn swyddogion yn y fyddin. Cyfranodd hefyd at yr ymdrech i sicrhau cofeb i Hedd Wyn, a chyhoeddi ei farddoniaeth. Wedi i'r rhyfel orffen penodwyd Silyn yn swyddog dros Gymru i'r corff oedd yn gyfrifol am gael hyd i waith i'r dynion oedd yn dychwelyd o'r fyddin.[11]
Gwnaed Silyn yn gadeirydd y Pwyllgor Llên pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Barri yn 1920, ond gyda gwaith y pwyllgor penodiadau yn dirwyn i ben dychwelodd i Ogledd Cymru yn 1922 i ddod yn athro dosbarthiadau nos gyda Phrifysgol Bangor. Roedd ei wraig Mary eisoes wedi dychwelyd i Gymru i sefydlu cangen Gymreig y Land Army.[11] Prynodd dŷ ar Ffordd y Coleg, Bangor, ddaeth ar ôl ei farwolaeth yn bencadlys cangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, sefydliad yr oedd gan Silyn a'i wraig swyddogaeth allweddol wrth ei sefydlu yn 1924. Silyn oedd Ysgrifennydd cyntaf y gymdeithas, ac oddi ar hynny hyd ddiwedd ei oes bu'n gyfrifol am sefydlu 14 o ganghenau lleol ohoni ledled y Gogledd.[1] Bu'n weithgar hefyd gyda Chylch Dewi - cymdeithas yn ymgyrchu dros defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg a chymdeithas a'r radio. Ailgydiodd rhywfaint mewn llenydda yn ystod ei ddegawd olaf, gan gyhoeddi ei gyfieithiad o ddrama J. O. Francis Gwyntoedd Croesion 1924 a'i gyfieithiad o nofel Émile Souvestre Bugail Geifr Lorraine (a luniodd ugain mlynedd ynghynt) yn 1927. Cyhoeddodd hefyd rai cerddi yn y wasg gyfnodol. Yn 1930 aeth ar daith swyddogol i'r Undeb Sofietaidd ac ysgrifennodd yn frwdfrydig am gyflwr y gweithwyr yn y wlad honno, er y mae'n debyg mai fersiwn propoganda o'r wlad gafodd ei chyflwyno iddo yno.[11] Ar y ffordd adref o Rwsia, cafodd ei bigo gan Fosgito, gan achosi twymyn y bu farw ohoni yn fuan wedyn, yn 59 oed.[12][11] Mae'i fedd ym mynwent Bangor.[11]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Priododd Mary Parry yn 1905, oedd hefyd yn ymgyrchydd dros addysg gweithwyr.[13] Cawsant dri o blant.[1] Mary oedd olynydd Silyn fel ysgrifennydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr; bu fyw hyd 1972.
Perthynas Mary a Silyn a'u gwaith gyda'r Gymdeithas yw testun y nofel Arlwy'r Sêr gan Angharad Tomos a gyhoeddwyd yn 2023. Roedd Silyn yn gyfaill i daid Angharad Tomos, David Thomas, a ysgrifennodd gofiant iddo yn 1956.[11]
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Fel Llenor
[golygu | golygu cod]
Roedd Silyn yn fardd blaenllaw yn y Mudiad Rhamantaidd mewn barddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'r fei ar droad yr 20g. Cafodd cyhoeddi ei gyfrol ar y cyd gyda W. J. Gruffydd, Telynegion (1900), ei disgrifio fel arwydd bod cyfnod newydd mewn barddoniaeth Gymraeg wedi cyrraedd.[1][8] Cymharodd un beirniad gyhoeddi'r gyfrol gyda chyhoeddiad y gyfrol Saesneg Lyrical Ballads gan William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge, a gyhoeddwyd yn 1798, gyda'r ddwy gyfrol yn cynrychioli dechrau mudiad rhamantaidd barddonol newydd yn y naill iaith a'r llall.[9] Am gyfnod byr ar ddechrau'r 20g gellid rhifo Silyn ymhlith beirdd Cymraeg mwyaf dadleuol a dylanwadol ei oes. Er y tueddir i ganolbwyntio ar wobrwyo awdl T. Gwynn Jones ar Ymadawiad Arthur yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1902, roedd buddugoliaeth Silyn yng nghystadleuaeth y Goron yr un flwyddyn ar y testun Trystan ac Esyllt hefyd yn dangos bod yr oes newydd wedi gwawrio.[14] John Morris-Jones oedd wedi gosod testun y ddwy gystadleuaeth. Ar y pryd, gellid fod wedi dadlau bod Silyn yn ail i Gwynn yn unig fel cynrychiolydd yr ysgol newydd: er y byddai W. J. Gruffydd yn profi'n fardd bwysicach o lawer yn y pen draw, Silyn oedd yr aeddfetach o awduron Telynegion a'i gerdd yntau drechodd ymdrech Gruffydd yng nghystadleuaeth y Goron.
Fodd bynnag, wrth i'r ganrif barhau tyfodd enwogrwydd Gruffydd ar draul un Silyn, a daeth nifer o feirdd newydd eraill i'r amlwg o fewn y mudiad fyddai hefyd yn profi'n fwy llwyddiannus a dylanwadol na Silyn yn y pen draw, megis J. J. Williams, R. Williams Parry a T. H. Parry-Williams. Er i Silyn barhau i ysgrifennu a chyhoeddi barddoniaeth yn achlysurol drwy gydol ei fywyd, roedd canfyddiad bod Silyn wedi rhoi'r gorau i farddoni wedi cyhoeddi Trystan ac Estyllt yn 1904 er mwyn canolbwyntio ar ei waith mewn meysydd eraill.[15] Roedd gwaith Silyn yn nodweddiadol o farddoniaeth cynnar yr Ysgol Ramantaidd, ac wedi'i nodwedu gan ddelfrydiaeth a rhamantiaeth delynegol; ond er i feirdd fel Gruffydd, T. Gwynn Jones a T.H. Pary-Williams ddatblygu eu harddulliau ymhellach yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel, parhaodd Silyn yn ramantydd hyd y diwedd.
Cymharol fach yw arwyddocad Silyn yn hanes y nofel Gymraeg, ond roedd ei nofel Llio Plas y Nos, a ymddangosodd fel cyfrol yn yr 1940au ond oedd wedi'i chyhoeddi'n wreiddiol (dan ffugenw) yn yr 1900au, yn enghraifft cynnar o lenyddiaeth Gothig yn Gymraeg. Mae wedi'i disgrifio fel fersiwn modern o'r rhamantau sifalrig,[16] ac yn hynny o beth mae'n dystiolaeth eto i ramantiaeth ei hawdur. Mae nofel wreiddiol arall Silyn, yr antur Y Ddeilen Aur, yn parhau heb ei chyhoeddi oni bai ar dudalennau'r Glorian.
Fel Trefnydd, Addysgwr a Gwleidydd
[golygu | golygu cod]Yn rhinwedd ei waith fel trefnydd ac addysgwr, yn enwedig fel sefydlydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, cafodd effaith pellgyrhaeddiol ar addysg i oedolion yng Nghymru.[2] Roedd ei wraig, Mary Silyn, a olynodd Silyn fel ysgrifenndd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, yn rhan allweddol o'r gwaith yma: bu hithau fyw hyd 1972.[17]
Er na chafodd Silyn ei ethol i swydd wleidyddol uwch na chynghorydd sir, yn rhinwedd ei ysgrifau a'i ddarlithoedd ystyrir ef yn ffigwr pwysig yn hanes cynnar y Blaid Lafur yng Nghymru, yn enwedig yn y cyd-destun Cymraeg, lle'r oedd yn un o'r ffigyrau cyntaf i arddel safbwyntiau sosialaidd yn y Gymraeg.[18] Meddai Jim Griffiths amdano:
‘Yr oedd i’w ddyfodiad ef arwyddocád arbennig i ni ieuenctid Deheudir Cymru. Yr oedd ef yn ddolen yn cydio’r hen a’r newydd… Silyn oedd y ddolen. Pregethai Dduw a Datblygiad. Yr oedd yn weinidog ac yn Sosialydd… Efe oedd ein hysbrydoliaeth, a’n cyfianwhad hefyd… Yr oedd ef yn cydio De Cymru Evan Roberts wrth Dde Cymru Keir Hardie.’[10]
Pwyswyd arno i sefyll fel aelod seneddol, ond gwrthododd.[10] Bu'n llai gweithgar yng ngwleidyddol ar ôl y Rhyfel, ac yn ddiweddarach yn ei fywyd mynegodd gefnogaeth at ymreolaeth,[11] er nad oedd yn gysylltiedig â sefydlu'r Blaid Genedlaethol.
Arall
[golygu | golygu cod]Digwyddodd ddau gyd-ddigwyddiad diddorol ond hanfodol ddibwys yn ystod bywyd Silyn sy'n ei gysylltu mewn ffordd fechan â rhai o ddigwyddiadau haneysddol mawr yr 20g. Digwyddodd y cyntaf yn ystod y 1900au pan gyfnewidiodd ychydig eiriau â gwr a arferai mynychu Ystafell Ddarllen yr Amgueddfa Brydeinig a siaradai Saesneg ag acen gref; er na ddysgodd enw'r gŵr, haerai Silyn yn ddiweddarach yn seiliedig ar ei ymddangosiad bod yn rhaid mai Vladimir Lenin ydoedd. Disgrifir y digwyddiad yng nghofiant David Thomas i Silyn.[19] Roedd Lenin yn Llundain ar y pryd ac mae'n hysbys iddo fynychu'r Ystafell Ddarllen yn reolaidd, felly byddai cyfarfod rhyngddynt yn berffaith bosib; fodd bynnag unwaith yn unig ddigwyddodd hyn ac nid oes prawf pendant mai Lenin oedd y gŵr cyfarfu Silyn ag ef. Ni thrafodwyd dim byd o sylwedd ganddynt ac ymddengys mai gorddweud llwyr yw honiadau mewn rhai ffynhonellau diweddarach[20][12] eu bod yn gyfeillion.
Digwyddodd yr ail gyd-ddigwyddiad tra'r oedd yn dychwelyd o'i daith i'r Unol Daleithiau yn 1912; hwyliodd y llong roedd Silyn arni drwy ran ogleddol o Gefnfor yr Iwerydd ychydig oriau'n unig cyn i'r RMS Titanic daro mynydd iâ yn yr un man tra'n hwylio i'r cyfeiriad arall. Meddai Silyn yn ddiweddarach na welasai iâ y prynhawn hwnnw, er ei bod hi'n oer iawn.[21]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Gweithiau Llenyddol
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- (gyda W.J. Gruffydd), Telynegion (1900)
- Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill (1904)
- Cofarwydd (1930). Detholiad fach o'i gerddi a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.
Nofelau
[golygu | golygu cod]Lluniodd Silyn ei nofelau tra'r oedd yn golygu Y Glorian a'u cyhoeddi yno rhwng 1905 a 1909. Cyhoeddwyd dwy ohonynt yn ddiweddarach ar ffurf cyfrolau.
- Llio Plas y Nos (1905 / 1945[22])
- Bugail Geifr Lorraine (1907 / 1927). Cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg gan Émile Souvestre.[23] Dyma oedd yr unig nofel o'i eiddo ymddangosodd fel cyfrol yn ystod ei fywyd ei hun; gwnaeth nifer o newidiadau ar gyfer testun 1927.
- Y Ddeilen Aur (1908) (yn Y Glorian yn unig)
Drama
[golygu | golygu cod]- Gwyntoedd Croesion (1924). Cyfieithiad o Cross Currents J. O. Francis.
Ysgrifennu Gwleidyddol
[golygu | golygu cod]- Y Blaid Lafur Anibynnol: ei hanes a'i hamcan (1908)
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Thomas, David (1956). Silyn: Robert Silyn Roberts, 1871-1930. Gwasg y Brython.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 5 6 7 8 "ROBERTS, ROBERT (SILYN) ('Rhosyr'; 1871 - 1930), bardd, pregethwr, diwygiwr cymdeithasol, ac athro". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- 1 2 3 Thomas 1956 t1
- ↑ Thomas 1956 t2
- ↑ Thomas 1956 t3-4
- 1 2 Thomas 1956 tt.5-6
- ↑ Thomas 1956 tt.7-8
- ↑ Chapman, T. Robin (1993) W. J Gruffydd (Dawn Dweud) Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t. 14
- 1 2 Llwyd, Alan (2017) Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, Cyhoeddiadau Barddas t. 140.
- 1 2 T. H. D. (1930) 'Silyn', Welsh Outlook, 17-11, t.291
- 1 2 3 4 5 6 7 Angharad Tomos (2019), Undod.cymru, "Dyddiau Cynnar Silyn."
- 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 Angharad Tomos (2019), Undod.cymru, "Ail Hanner Bywyd Silyn."
- 1 2 From Llanllyfin to Lewisham and a meeting with Lenin, the life of Silyn Roberts, a Welsh quarryman turned poet and presbyterian minister Ladywell Live. Adalwyd 27 Ebrill 2026
- ↑ "Mary Silyn, Syniad am Stori". Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 21 Awst 2025.
- ↑ Canrif o Brifwyl: 1902, BBC Cymru, Adalwyd 27 Ebrill 2026.
- ↑ Thomas 1956 tt.112
- ↑ R. Silyn Roberts (2024) Llio Plas y Nos, Melin Bapur (Rhagymadrodd)
- ↑ Emma Towner (2026) Llyfrgell Genedlaethol Cymru "Mary Silyn Roberts". Adalwyd 14-8-2026.
- ↑ D. Ben Rees (2025) Cyd-ddyheu a'i Cododd Hi: Hanes y Blaid Lafur yng Nhgymru, Melin Bapur.
- ↑ Thomas 1956 tt.146
- ↑ Cofio'r 'dynamo o ddynes', Mary Silyn, BBC Cymru. Adalwyd 27 Ebrill 2026.
- ↑ Thomas 1956 tt.101
- ↑ Roberts, Robert Silyn (1945). . Dinbych: Thomas Gee.
- ↑ Roberts, R Silyn (1925). . Wrecsam: Hughes a'i Fab.
